Defnyddio’r wefan hon

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Technoleg Iechyd Cymru. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo’r cynnwys hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi ceisio gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall, ac wedi cynnwys crynodebau iaith glir ar gyfer ein pynciau.

Os oes gennych anabledd, mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich teclyn yn haws i’w ddefnyddio.

 

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch.

  • Trefn ffocws: Mewn rhai rhannau o’r wefan, ni all defnyddwyr lywio’n rhesymegol drwy’r cynnwys wrth ddefnyddio bysellfwrdd. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw’n gallu dod o hyd i wybodaeth yn y drefn gywir, a allai effeithio ar eu dealltwriaeth o’r cynnwys.
  • Elfennau wedi’u nythu: Mae rhai elfennau o’r wefan wedi’u nythu, sydd yn gallu achosi problemau gyda thechnoleg gynorthwyol. Mae elfennau wedi’u nythu yn gallu cynnwys botymau, dolenni a rheolyddion rhyngweithiol eraill sydd wedi’u nythu o fewn ei gilydd ar dudalen we. Gall technolegau cynorthwyol, fel darllenwyr sgrin, gael trafferth dehongli a llywio’r elfennau hyn.
  • Delweddau addurniadol: Mae rhai delweddau addurniadol ar y wefan yn cynnwys testun amgen, sydd yn gallu cael ei ddarllen gan raglenni darllen sgrin. Ni ddylai’r delweddau hyn gynnwys testun amgen ac felly, gallant gael eu hanwybyddu gan y rhaglenni darllen sgrin

 

Beth i’w wneud os na allwch chi gael mynediad i rannau o’r wefan hon

Anfonwch e-bost at  info@healthtechnology.wales os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu Braille. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych chi’n defnyddio technoleg gynorthwyol, dywedwch wrthym beth yw hyn.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi ymhen 10 diwrnod gwaith.

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os fyddwch chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau sydd heb gael eu rhestru ar y dudalen hon, neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â:info@healthtechnology.wales. Gallwch hefyd gysylltu â ni dros y ffôn, drwy’r post neu drwy ein ffurflen ar-lein.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil y diffyg cydymffurfiaeth sydd wedi’u rhestru isod.

 

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Mae’r cynnwys nad yw’n hygyrch wedi’i amlinellu isod, am y rhesymau canlynol:

  • methu â chyflawni’r meini prawf llwyddiant
  • dyddiadau wedi’u cynllunio ar gyfer pryd y bydd problemau’n cael eu datrys

Trefn ffocws Mewn rhai rhannau o’r wefan, ni all defnyddwyr lywio’n olynol drwy’r cynnwys gan ddefnyddio bysellfwrdd. Mae hyn yn golygu methu â chyflawni maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.3 (Trefn Ffocws – Lefel A) Rydym yn bwriadu datrys y broblem hon erbyn mis Rhagfyr 2025.

Elfennau wedi’u nythu: Mae rhai elfennau o’r wefan wedi’u nythu, sydd yn gallu achosi problemau gyda thechnoleg â chymorth. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.2.1 WCAG 4.1.2, Enw, Rôl, Gwerth (Lefel A). Rydym yn bwriadu datrys y broblem hon erbyn mis Rhagfyr 2025

Delweddau addurniadol: Mae rhai delweddau addurniadol ar y wefan yn cynnwys testun amgen, sydd yn gallu cael ei ddarllen gan raglenni darllen sgrin. Ni ddylai’r delweddau hyn gynnwys testun amgen ac felly, gallant gael eu hanwybyddu gan y rhaglenni darllen sgrin. Mae’r maen prawf llwyddiant WCAG 1.1.1 hwn wedi methu. Rydym wrthi’n datrys y broblem hon ac yn anelu at ei chwblhau erbyn mis Rhagfyr 2025.

Byddwn yn gweithio gyda’n datblygwyr i fonitro hygyrchedd ein gwefan yn barhaus yn ystod unrhyw ddiweddariadau a datblygiadau yn y dyfodol.

 

Problemau gyda ffeiliau PDF a dogfennau eraill

Nid yw llawer o’n dogfennau PDF a Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd. Er enghraifft, efallai na fyddant wedi’u marcio fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin.

Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Erbyn mis Mai 2026, rydym yn bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018  os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ffeiliau PDF neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.

Os oes angen i chi gael mynediad at wybodaeth yn un o’r mathau hyn o ddogfennau, cysylltwch â ni a gofynnwch am fformat arall.

Sut y gwnaethom brofi’r wefan hon

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 11 Hydref 2024. Cynhaliwyd yr archwiliad gan archwilydd annibynnol – y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.

Aseswyd y wefan yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We WCAG 2.1.

Cynhyrchwyd adroddiad hygyrchedd a nododd unrhyw rwystrau hygyrchedd a wynebwyd yn ystod y broses brofi, gan gynnwys enghreifftiau o unrhyw rwystrau mewn perthynas â thechnoleg gynorthwyol. Darparwyd gwybodaeth ar sut i ddatrys y problemau hyn.

Mae rhan fwyaf o faterion a nodwyd yn yr adroddiad wedi cael eu datrys erbyn hyn, gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd yn yr adroddiad archwilio.

Rydym yn bwriadu datrys unrhyw faterion sy’n weddill erbyn mis Rhagfyr 2025.

Yn y cyfamser, rydym yn parhau i fonitro hygyrchedd ein gwefan yn ystod unrhyw ddiweddariadau a datblygiadau yn y dyfodol.