Datblygu asesiad o’r Effaith Amgylcheddol mewn Asesiad Technoleg Iechyd: Gwobr Cyflwyniad Llafar Gorau INAHTA 2025

Er mai prif nod systemau gofal iechyd ydy atal a gwella clefydau, maen nhw hefyd yn gyfrifol am lygredd, ac yn cyfrannu at achosi clefydau. Mae’r sector gofal iechyd yn gyfrifol am tua 5% o ôl troed carbon y byd, a phe bai’n wlad, byddai’r pumed allyrrydd mwyaf ar y blaned. Mae cydnabyddiaeth gynyddol ar draws y byd o’r effaith amgylcheddol sydd gan systemau gofal iechyd a thechnolegau iechyd, sydd wedi arwain at ddiddordeb cynyddol ymhlith asiantaethau HTA ynghylch asesu a chynnwys effaith amgylcheddol o fewn HTA.
Y llynedd, cyhoeddwyd y Papur Gwyn “INAHTA White Paper on Advancing Environmental Sustainability Through HTA”. Roedd HTW ynghlwm mewn ysgrifennu’r papur llwyddiannus hwn, ochr yn ochr â grŵp gwirfoddol o 22 o arbenigwyr HTA eraill mewn 15 o asiantaethau sydd yn rhan o NAHTA. Cyflwynwyd y papur yng nghyfarfod blynyddol HTAi 2025 yn Buenos Aires, gan yr awdur, Tara Schuller, ac rydym yn falch dros ben o gyhoeddi ei fod wedi ennill y wobr am y Cyflwyniad Llafar Gorau!
Nod y papur hwn oedd hyrwyddo trafodaeth am barodrwydd posibl a rôl asiantaethau HTA i integreiddio asesiad o’r effaith amgylcheddol yn eu gwaith. Mae asesiad o’r effaith amgylcheddol yn rhan o offeryn polisi sy’n ceisio mesur effaith amgylcheddol technoleg. Mae’n gallu bod yn offeryn pwysig i wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio technolegau iechyd, ac yn helpu i adnabod ac o bosib, cael gwared ar dechnolegau sy’n gymharol niweidiol i’r amgylchedd. Roedd y papur hefyd yn anelu at rannu gwybodaeth ar draws y gymuned HTA, gyda’r nod o leihau ôl troed amgylcheddol gofal iechyd, tra’n cefnogi gofal o ansawdd uchel a chost-effeithiol ar yr un pryd.
Gallwch ddarllen y Papur Gwyn yma: https://www.inahta.org/hta-tools-resources/eia-in-hta/