Newyddion

18 Gorffennaf, 2019

Aelod o’r Panel Arfarnu, Dr Sally Lewis, yn edrych yn ôl ar Gyfarfod Blynyddol HTAi 2019

Road directions to the HTAi 2019 annual meeting.
 

Yn ddiweddar, mynychodd tîm Technoleg Iechyd Cymru Gyfarfod Blynyddol rhyngwladol Asesu Technoleg Iechyd (HTAi) 2019 yn Cologne, ac ymunodd Dr Sally Lewis, Ymarferydd Cyffredinol ac aelod o’n Panel Arfarnu, â nhw.

Mae Sally yn Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Darbodus, Seiliedig ar Werthoedd hefyd, a mynychodd y gynhadledd pedwar diwrnod, ynghyd â 1,200 o weithwyr proffesiynol Asesu Technoleg Iechyd (HTA).

Edrychodd Sally yn ôl ar ei phrofiad o Gyfarfod Blynyddol HTAi 2019 ac meddai, yn ei geiriau ei hun:

“Yn y cyfarfod rhyngwladol yn Cologne eleni, gofynnwyd i mi gyfrannu fel panelydd at y testun ‘ Sut mae asesiadau technoleg iechyd yn datblygu i gefnogi gofal iechyd, seiliedig ar werthoedd.’

Dechreuais drwy dynnu sylw at yr hyn rwyf yn credu rydym yn ceisio’i gyflawni drwy gael y gwerth gorau wrth ddefnyddio dyfeisiau meddygol. Rydym yn ceisio darparu tystiolaeth er mwyn gwella’r canlyniadau i gleifion o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni, gwella diogelwch dyfeisiau meddygol, a chanfod problemau’n gynnar, yn ogystal â lleihau amrywiadau diangen yn y defnydd ar draws system.

Gellir rhannu’r materion hyn yn fras yn dri chategori:

  • Cynhyrchion newydd a allai fod yn uchel o ran gwerth, ond efallai bod diffyg data ar eu heffeithiolrwydd hefyd.
  • Cynhyrchion cyfnewid, o’u cymharu â chynhyrchion presennol sydd yn gwneud rhywbeth tebyg.
  • Y posibiliad o orddefnyddio cynhyrchion costeffeithiol sydd, wrth eu defnyddio y tu allan i’w cyd-destun, â gwerth is.

Roedd y cyd-destun ar gyfer cynnal asesiad o ddiddordeb mawr i mi, o gofio’r ymdrech amlwg i gysoni HTA yn fyd-eang. Dadleuais y gallai hyn arwain at ganlyniadau gwallus petasem ddim yn ystyried effaith, ac felly gwerth, yn nhermau’r cyd-destun lleol, yn enwedig mewn perthynas â newidiadau i lwybrau a gyflwynwyd drwy fabwysiadu dyfeisiau diagnostig. Rwyf o’r farn hefyd, nad yw’n ddigonol i HTA stopio ar ôl i dechnolegau gael eu mabwysiadu, yn enwedig gan bod diffyg data yn aml ar y pwynt hwn.

Ar ôl mabwysiadu, dylem fod yn ceisio cynhyrchu a defnyddio tystiolaeth fyd-eang o ddata canlyniadau cleifion sy’n cynnwys mesurau cyflwr benodol ac ansawdd bywyd byd-eang. Mae angen cynnal mwy o ymchwil i fethodoleg gadarn ar sut y gallwn gyfrifo blynyddoedd bywyd a addaswyd yn ôl ansawdd (QALYs) offer a fydd yn helpu i asesu gwerth yn well dros y tymor hirach. 

Rwy’n siŵr y bydd y gwaith hwn yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf, ac mae HTAs mewn sefyllfa dda iawn i ddatblygu hyn mewn partneriaeth â’r diwydiant. Rwy’n siŵr y bydd hwn yn bwnc llosg yng Nghynhadledd HTAi 2020 yn China.”