COVID-19

11 Ionawr, 2021

Atal proses arfarnu HTW dros dro

A graphic for HTW's COVID-19 work

Gan ystyried datblygiadau diweddaraf pandemig y clefyd coronafeirws (COVID-19), mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi bod yn adolygu’r cyfarfodydd a gynhelir i gefnogi ein proses arfarnu a’n Canllawiau.

Yn anffodus, rydym wedi penderfynu atal dros dro ein cyfarfodydd Panel Arfarnu a chyhoeddiad Canllaw cenedlaethol newydd hyd nes yr hysbysir yn wahanol.

Gwnaed y penderfyniad hwn er mwyn rhyddhau staff llinell flaen ac osgoi tynnu sylw ein cydweithwyr yn y GIG ar yr adeg hon o bwysau digynsail.

Bydd tîm HTW yn parhau gyda’n gwaith arfarnu tystiolaeth, fel ein bod yn barod i lunio Canllaw cenedlaethol newydd pan fo hynny’n briodol.

Byddwn hefyd yn parhau i gydweithio â’n partneriaid asesu technoleg iechyd (HTA) eraill yn y DU a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yng Nghymru i gynorthwyo gyda’u hymatebion perthnasol i COVID-19.

Adolygir y camau hyn bob tair wythnos, yn unol â dull Llywodraeth Cymru. Byddwn yn cynnal cysylltiad rheolaidd gyda’n rhanddeiliaid a chyhoeddir diweddariadau ar ein gwefan.

Ewch i’n tudalen we benodol ar gyfer COVID-19 i weld ein gweithgareddau.