Canllaw wedi’i gyhoeddi ar offer cymorth AI ar gyfer gwneud diagnosis o ganser y prostad
Rydym wedi cyhoeddi canllaw newydd ar gynnal adolygiad gyda chymorth deallusrwydd artiffisial (AI) o fiopsïau’r prostad wrth ganfod a gwneud diagnosis o ganser y prostad.
Yn ôl ein canllaw, nid oes digon o dystiolaeth i gefnogi mabwysiadu’r dechnoleg fel mater o drefn.
Mae’r canllaw yn argymell cynnal ymchwil bellach i ddeall effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd y systemau AI, a’u heffaith ar ymarfer clinigol yn y byd go iawn. Yn benodol, buasem yn cefnogi’r gwaith o ddadansoddi data o brosiect peilot sydd yn defnyddio system AI ar hyn o bryd, ar gyfer gwneud diagnosis o ganser y prostad yn GIG Cymru.
I ddarllen y canllaw yn llawn, cliciwch yma: Rydym wedi cyhoeddi canllaw newydd ar gynnal adolygiad gyda chymorth deallusrwydd artiffisial (AI) o fiopsïau’r prostad wrth ganfod a gwneud diagnosis o ganser y prostad.
Yn ôl ein canllaw, nid oes digon o dystiolaeth i gefnogi mabwysiadu’r dechnoleg fel mater o drefn.
Mae’r canllaw yn argymell cynnal ymchwil bellach i ddeall effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd y systemau AI, a’u heffaith ar ymarfer clinigol yn y byd go iawn. Yn benodol, buasem yn cefnogi’r gwaith o ddadansoddi data o brosiect peilot sydd yn defnyddio system AI ar hyn o bryd, ar gyfer gwneud diagnosis o ganser y prostad yn GIG Cymru.
I ddarllen y canllaw yn llawn, cliciwch yma