Astudiaeth achos: Monitro Glwcos yn Barhaus
Beth wnaethom ni?
Gwnaethom arfarnu tystiolaeth ar effeithiolrwydd defnyddio monitro glwcos yn barhaus er mwyn helpu menywod beichiog sydd â diabetes math 1 i reoli eu cyflwr. Gwnaethom gyhoeddi Canllaw ym mis Hydref 2019.
Gyda phwy?
Gofynnodd Llywodraeth Cymru ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes GIG Cymru i ni arfarnu’r pwnc hwn. Gwnaethom ymgynghori ag amrediad o randdeiliaid yn ystod adolygiad o’r dystiolaeth, yn cynnwys arbenigwyr nyrsio diabetes, diabetolegwyr ac ymchwilwyr academaidd. Gwnaethom hefyd roi ystyriaeth i wybodaeth gan wneuthurwyr dyfeisiau monitro glwcos parhaus a thystiolaeth gan gleifion.
Beth oedd yr adwaith?
Teimlai rhanddeiliaid bod yr adolygiad tystiolaeth yn rhoi crynodeb ddefnyddiol iawn o’r gwahanol systemau monitro glwcos yn barhaol sydd ar gael a’r dystiolaeth i gefnogi eu defnydd.
Beth wnaethom ei ddysgu?
O gymharu â hunanfonitro glwcos y gwaed, mae defnyddio monitro glwcos yn barhaus yn arwain at well rheolaeth lefelau siwgr yn y gwaed ac yn lleihau cyfradd y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â diabetes yn ystod beichiogrwydd. Rhagwelir hefyd y bydd yn arbed costau oherwydd bod rhai cymhlethdodau yn cael eu hosgoi. Felly, mae ein Canllaw yn cefnogi defnydd monitro glwcos parhaus ar gyfer menywod beichiog sydd â diabetes math 1.
Pa wahaniaeth wnaeth hyn?
Bydd ein Canllaw yn arwain at well canlyniadau ar gyfer mamau sydd â diabetes math 1 a’u babanod drwy leihau cymhlethdodau. Rhagwelir y bydd defnyddio monitro glwcos yn barhaus gan famau diabetes math 1 yn arbed £1,029 am bob achos o feichiogrwydd o gymharu â hunanfonitro glwcos y gwaed, oherwydd lleihad mewn gofynion gofal dwys newydd-anedig. Amcangyfrifir y gallai GIG Cymru arbed £105,999 drwy fabwysiadu’r Canllaw. Mae’r arbediad cost hwn wedi’i seilio ar y dybiaeth y byddai 50% yn manteisio ar y dechnoleg heb Ganllaw HTW.
Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol 2018-2019 HTW yn llawn.