Newyddion

02 Mawrth, 2026

Cyhoeddi ail argraffiad y llyfr ynghylch defnyddio’r broses PPI wrth asesu technolegau iechyd

 

Mae HTW yn teimlo anrhydedd o fedru cyhoeddi ei ran yn yr ail argraffiad o’r llyfr Patient and Public Involvement in Health Technology Assessment. Mae’r adnodd pwysig a gwerthfawr hwn wedi bod yn ymdrech ar y cyd mwy na 120 o arbenigwyr o bob cwr o’r byd sydd, ynghyd â’n golygyddion Karen Facey, Ann Single ac Anke-Peggy Holtorf, yn cofnodi’r gwahanol ffyrdd y mae cynnwys cleifion yn cael ei gyflawni ar draws y byd, ac yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am syniadau a dulliau newydd.

 

Mae Pennod Cymru yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau pwrpasol ar gyfer Cynnwys Cleifion mewn Asesiadau Technoleg Iechyd. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd dull cwbl gydweithredol o weithio gyda sefydliadau sy’n cynrychioli cleifion, yn seiliedig ar fethodolegau hyblyg, ond strwythuredig, sy’n addasu ac yn ymateb i anghenion cymunedau cleifion yn ystod y broses ymgysylltu.  Mae HTW yn falch o gael ei enwi ymhlith y nifer o gyfranogwyr rhagorol i’r gwaith gwych hwn ac o hyrwyddo ein Grŵp Sefydlog Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd (PPISG) a’r gwaith maen nhw’n ei gynhyrchu yn defnyddio ein Hofferyn Mecanwaith PPI.

 

 

Mae Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd wedi bod wrth wraidd HTW ers ei sefydlu yn 2017, ac mae’n parhau i fod yn rhan werthfawr a hanfodol o’n gwaith. Rydym yn ddiolchgar dros ben am gefnogaeth ein Partneriaid Cyhoeddus rhagorol, o’r presennol a’r gorffennol, sydd wedi bod yn hanfodol wrth lunio’r gwaith hwn fel rhan o’r Grŵp Sefydlog Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd ac yn ein pwyllgorau o’r Grŵp Asesu a’r Panel Asesu.

 

Dywedodd Sarah Peddle, aelod o’r Grŵp Sefydlog Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd:

“Ar ôl ymuno â HTW fel partner cyhoeddus pan oedd y sefydliad yn ei ddyddiau cynnar, roeddwn yn hynod falch ac yn freintiedig o allu cyfrannu at ddatblygu prosesau effeithiol ar gyfer cynnwys y cleifion a’r cyhoedd, sy’n sicrhau bod llais y claf a’r cyhoedd yn cael ei glywed a’i ystyried mewn asesiadau technoleg iechyd.

“Fe wnaethon ni weithio mewn partneriaeth i gyflawni hyn, gyda fi fy hun a phartneriaid cyhoeddus eraill o amrywiaeth o gefndiroedd a chyda ystod o brofiadau yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol HTW, i ddatblygu a mireinio dulliau sy’n gweithio ymhellach.  Roeddwn i hefyd yn falch dros ben o fod wedi cael y cyfle i gyfrannu at bennod yn y llyfr Patient and Public Involvement in HTA, sy’n arddangos ein gwaith yng Nghymru.”

 

Hoffem dalu teyrnged hefyd i’r sefydliadau cleifion, grwpiau ac elusennau, sydd wedi gweithio gyda ni fel cyfranwyr o brofiadau byw cleifion, tystiolaeth seiliedig ar gleifion a chyflwyniadau cleifion i’n gwaith arfarnu dros y chwe blynedd diwethaf, a’r mewnwelediadau a’r adborth amhrisiadwy maen nhw wedi’u rhannu gyda ni.

 

Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb barodrwydd cleifion, eu teuluoedd, eu ffrindiau, eu gofalwyr, unigolion a’r cyhoedd i gymryd rhan yn ein gwaith, i rannu profiadau, barn, safbwyntiau, pryderon a mewnwelediadau gyda ni, ac i helpu i sicrhau bod gwneuthurwyr penderfyniadau yn cael gwybod am y realiti y mae cleifion yn ei wynebu a’r potensial i dechnolegau iechyd gyflwyno manteision i fywydau pobl. Hoffem ddiolch i chi am eich amser, eich ymdrechion a’ch gonestrwydd wrth gymryd rhan yn y broses hon.

 

Dilynwch y ddolen i lawrlwytho eich copi E-lyfr AM DDIM o’r adnodd hynod bwysig hwn: https://link.springer.com/book/10.1007/978-3-032-11284-2

 

 

Rydym yn cefnogi’r Fframwaith Enfys PPI.  Llongyfarchiadau i’n cyd-awduron a’n golygyddion. Enfysau amdani!