Cynnydd rhyngwladol ar gyfer Technoleg Iechyd Cymru yng nghynhadledd ryngwladol HTAi 2019

Rydym newydd ddychwelyd o Gyfarfod Blynyddol HTAi 2019, ac rydym yn hapus i adrodd digon o gynnydd gyda’n cydweithwyr rhyngwladol.
Cynhaliwyd y gynhadledd pedwar diwrnod yn Cologne yn yr Almaen, a daeth dros fil o weithwyr proffesiynol Asesu Technoleg Iechyd (HTA) at ei gilydd o 60 o wledydd ar draws y byd.
Mae’r cyfarfod blynyddol yn hwyluso cyfnewid gwybodaeth, arbenigedd, ymchwil a thrafodaethau ar bolisïau. Mae’n meithrin arloesedd o ran dulliau HTA a’r defnydd effeithiol o adnoddau sefydliadol.
Cyflwynodd tîm Technoleg Iechyd Cymru saith crynodeb, yn rhoi manylion am ein gwaith fel corff cenedlaethol. Cafodd y cyfan eu derbyn, a’u cyflwyno fel posteri, sgyrsiau neu ‘vignettes’.
Cliciwch ar y dolenni isod i weld y cyflwyniadau (Saesneg yn unig):
- Developing a Celtic Connections Regional HTA Alliance (Llafar)
- Prioritising Introduction of Radiotherapy Procedures (Vignette)
- Establishing HTA Impact Evaluation From Day One (Poster)
- Smart Capability Building For Effective Patient Involvement (Poster)
- Bevan Health Tech Exemplars: Early Dialogue To Systematise HTA (Poster)
- Telemonitoring With Pacemakers For Patients With Heart Failure In NHS Wales (Poster)
- A Stakeholder-Informed Strategy for Effective Communication (Poster)

Cynhaliodd Technoleg Iechyd Cymru stondin arddangos hefyd, i godi ein proffil a rhannu ein gwaith gyda’r gymuned HTA fyd-eang.
Roedd yr aelod o’r panel arfarnu, Dr Sally Lewis, yn bresennol hefyd, a chyflwynodd ar y panel – HTA & Medical Devices: The Past, Present & Future of Medical Device Value Assessment. Cliciwch yma i ddarllen am brofiad Sally.
Hoffem ddymuno pob lwc i’n cydweithwyr o Beijing, China, a fydd yn cynnal Cyfarfod Blynyddol HTAi y flwyddyn nesaf yn 2020. Cyhoeddodd HTAi hefyd, y bydd cynhadledd 2021 yn cael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig, ym Manceinion, ac rydym yn hapus i fod yn aelod o’r Pwyllgor Trefnu Lleol.