Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023 – Galwad Pwnc Agored
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, mae Technoleg Iechyd Cymru wedi lansio galwad pwnc agored i ddod o hyd i dechnolegau iechyd a gofal anfeddygol a allai gefnogi iechyd menywod.
Mae’n gwahodd gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, datblygwyr technoleg ac aelodau’r cyhoedd i gyflwyno eu syniadau.
Bydd HTW, sy’n arfarnu technolegau iechyd a gofal anfeddygol ac sy’n cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ynghylch p’un a ddylid eu defnyddio yng Nghymru neu beidio, yn asesu’r dystiolaeth sydd ar gael ar bob technoleg iechyd digidol a gyflwynir.
Bydd penderfyniad yn cael ei wneud wedyn ynghylch p’un a oes digon o dystiolaeth i gyhoeddi canllaw a allai gefnogi defnyddio’r dechnoleg yng Nghymru.
Enghraifft o bynciau sy’n gysylltiedig ag iechyd menywod y mae HTW wedi cyhoeddi canllawiau cenedlaethol arnynt yw:
Monitro Glwcos yn Barhaus yn ystod Beichiogrwydd
Dylai unrhyw un a hoffai gymryd rhan yn y galwad pwnc agored wneud hynny drwy fynd i’r dudalen Awgrymu Pwnc ar wefan Technoleg Iechyd Cymru.