Dyfarnu £2.8 miliwn i Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Cymru (CADR)

Cafodd y llun hwn ei dynnu cyn i’r mesurau cadw pellter cymdeithasol mewn perthynas â COVID-19 ddod i rym.
Dyfarnwyd cyllid gwerth £2.8 miliwn i Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia Cymru (CADR) ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Mae’r cyllido yn rhan o fuddsoddiad gwerth £44 miliwn gan Lywodraeth Cymru ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol. Gyda rôl i wella ansawdd gofal yng Nghymru, cafodd Technoleg Iechyd Cymru (HTW) ei enwi’n gydweithredwr ar y cynnig llwyddiannus.
“Rydym wrth ein bodd gyda’r newyddion am y cais llwyddiannus ac rydym yn edrych ymlaen at y cyfleoedd cyffrous sydd i ddod” meddai Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr HTW. “Bydd ein cydweithredu gyda CADR yn helpu i flaenoriaethu’r technolegau a all wneud gwahaniaeth i ofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd hefyd yn cefnogi datblygiad ffyrdd mwy arloesol i gefnogi pobl i gyflawni eu canlyniadau personol o ran llesiant.”
Meddai Diane Seddon, Darllenydd mewn Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor: “Rydym yn croesawu’r cyfle i gydweithio gyda Thechnoleg Iechyd Cymru er mwyn ymchwilio ffyrdd y gall technolegau wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pob dydd pobl hŷn, yn cynnwys y rheini sy’n byw gyda dementia, a’u gofalwyr. Byddwn hefyd yn meddwl am strategaethau i ymgysylltu â’r sector gofal cymdeithasol er mwyn archwilio’r technolegau diweddaraf sydd ar gael.”
Mae CADR yn ganolfan ymchwil o’r radd flaenaf sy’n mynd i’r afael â chwestiynau allweddol o bwysigrwydd rhyngwladol ynglŷn â heneiddio a dementia er mwyn gwella bywydau pobl hŷn. Mae’n integreiddio gweithgarwch amlddisgyblaeth ac fe’i arweinir gan Brifysgol Abertawe. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor, mae’r Ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth gydag ystod eang o gydweithredwyr ym meysydd polisi ac arfer.
Bydd y cydweithredu gyda HTW yn rhoi cyfleoedd i’r ddau sefydliad gydweithio ar gynigion ymchwil sy’n canolbwyntio ar dechnolegau gofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn. Gallai hyn gynnwys adolygu tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio a’r rhwystrau ar gyfer defnyddio technolegau mewn lleoliadau preswyl ac yn y gymuned.
Cliciwch yma i ddysgu rhagor am CADR.