Newyddion

27 Hydref, 2025

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar monitor fideo yn y cartref ar gyfer epilepsi

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd ar ddefnyddio monitor fideo yn y cartref i ddiagnosio epilepsi a’i reoli.

 

Mae epilepsi yn gyflwr lle mae ffrwydradau sydyn o weithgarwch trydanol yn yr ymennydd yn atal yr ymennydd rhag gweithio’n normal. Fel arfer, mae hyn yn arwain at ffitiau.

I ddiagnosio epilepsi, gofynnir i gleifion gadw golwg ar ffitiau gartref.

Mae hyn yn gallu bod yn heriol, gan fod ffitiau’n gallu digwydd ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos, ac efallai bod rhesymau eraill pam bod rhywun yn cael ffit.

 

Gellir monitro’r ymennydd am weithgarwch anarferol trwy gyfrwng electroenceffalogram (EEG) a sganiau o’r ymennydd, ond er mwyn i hyn fod yn llwyddiannus,  mae’n rhaid i’r ffit ddigwydd yn ystod yr EEG, ac efallai y bydd rhaid aros yn yr ysbyty am gwpwl o ddiwrnodiau i gael diagnosis.

 

Mae defnyddio monitor fideo yn y cartref yn cynnwys gosod camera yn y cartref i recordio ffitiau wrth iddynt ddigwydd.

Mae’r dechnoleg yn llunio adroddiad o weithgarwch yr ymennydd y gellir ei ddefnyddio ar gyfer diagnosio a thrin epilepsi yn barhaus.

Gall hyn leihau’r pwysau ar gleifion a’u teuluoedd i gadw recordiadau cywir, a dileu’r angen i fynd i’r ysbyty i gael eu monitro.

Mae canllaw HTW yn nodi, er bod defnyddio monitor fideo yn y cartref yn dangos addewid, does dim digon o dystiolaeth glinigol ac economaidd ar gael i gefnogi mabwysiadu’r dechnoleg yn rheolaidd.

I ddarllen y canllaw yn llawn, cliciwch yma.