Monitor fideo yn y cartref ar gyfer epilepsi
Statws Testun Cyflawn
Monitor fideo yn y cartref ar gyfer diagnosio a rheoli epilepsi
Canlyniad yr arfarniad
Mae monitro fideo yn y cartref ar gyfer diagnosio a rheoli epilepsi, gan gynnwys systemau sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial, yn dangos addewid ond nid yw’r dystiolaeth glinigol ac economaidd yn ddigonol i gefnogi ei fabwysiadu fel mater o drefn.
Tystiolaeth gyfyngedig a ganfuwyd yn ymwneud ag effeithiolrwydd clinigol. Mewn un astudiaeth, dangosodd y system Nelli-hybrid sensitifrwydd diagnostig da wrth nodi ffitiau motor mawr, ond cynhaliwyd hyn mewn ysbyty yn hytrach nag yn y cartref. Cydnabyddir bod recordio fideo oportiwnistaidd o ffitiau yn y cartref yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth atodol ar gyfer clinigwyr.
Er yr archwiliwyd effaith economaidd yn cymharu’r system Nelli-hybrid ag electroenceffalogram fideo, ni ellid asesu’r effaith economaidd lawn oherwydd cyfyngiadau yn y dystiolaeth effeithiolrwydd clinigol.
Argymhellir tystiolaeth gymharol ragolygol bellach o ansawdd uchel sy’n adrodd ar gywirdeb diagnostig llawn, ansawdd bywyd a derbynioldeb ar draws gwahanol grwpiau cleifion yn y cartref.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mae epilepsi yn achosi ffitiau mynych oherwydd gweithgaredd annormal yn yr ymennydd, gyda symptomau megis symudiadau herciog a theimladau anarferol, sy’n aml yn cael eu tan-adrodd gan gleifion a gofalwyr. Mae electroenceffalogram fideo (vEEG) ac electroenceffalogram symudol (aEEG) yn helpu i wneud diagnosis o ffitiau a’u monitro ond gallant fod yn ddwys o ran adnoddau. Gall recordio fideo o bell yn y cartref fod yn ddewis arall yn lle vEEGs ac aEEGs wrth wneud diagnosis o’r cyflwr neu ei fonitro, a all oresgyn rhwystrau at fynediad a bod yn fwy goddefadwy i gleifion.
Awgrymwyd y pwnc hwn i HTW gan Neuro Event Labs (Tampere, y Ffindir), sef gwneuthurwyr y system monitro fideo yn y cartref Nelli.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae epilepsi yn gyflwr lle mae ffrwydradau sydyn, afreolus o weithgarwch trydanol yn yr ymennydd yn atal gweithgaredd arferol yr ymennydd. Gelwir y ffrwydradau hyn yn ‘ddigwyddiadau’. Maent fel arfer yn arwain at ffitiau. Nid yw pob ffit yn ganlyniad i epilepsi. Gall ffitiau epileptig gynnwys pethau fel:
- hercio ac ysgwyd afreolus
- colli ymwybyddiaeth a syllu’n wag
- mynd yn stiff
- teimladau rhyfedd, fel teimlad o “godi” yn y bol, arogleuon neu flasau anarferol, a phinnau bach yn y breichiau neu’r coesau
- llewygu, colli ymwybyddiaeth a cholli cof
Fel arfer mae angen diagnosio un neu fwy o ffitiau ar gyfer epilepsi. Gofynnir i gleifion gadw cofnod o’u ffitiau gartref, gan gynnwys hyd ac amlder y digwyddiadau. Gall hyn fod yn anodd gan y gall ffitiau ddigwydd ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos ac efallai y bydd angen help ar gleifion i adnabod neu gofnodi ffit. Mae diagnosis yn gymhleth gan y gallai fod rhesymau eraill pam mae rhywun yn cael ffit. Gellir monitro’r ymennydd am weithgarwch anarferol trwy ddefnyddio electroenceffalogram (EEG) a sganiau ymennydd. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar ffit yn digwydd ar yr un pryd â’r EEG. Efallai y bydd angen i gleifion aros yn yr ysbyty am sawl diwrnod i gyflawni hyn.
Mae monitro fideo yn y cartref yn cynnwys gosod camera yn y cartref i gofnodi ffitiau ar fideo wrth iddynt ddigwydd. Mae’r ddyfais/dyfeisiau yn rhoi adroddiad o weithgarwch yr ymennydd y gellir ei ddefnyddio ar gyfer diagnosis a thriniaeth barhaus epilepsi. Mae hyn yn golygu nad oes angen mynd i’r ysbyty i fonitro a dibynnu ar gleifion a’u teuluoedd i gadw cofnodion cywir.
Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar ddefnydd monitro fideo yn y cartref ar gyfer diagnosis a thrin epilepsi. Mae monitro fideo yn y cartref ar gyfer diagnosis a rheoli epilepsi, gan gynnwys systemau sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial, yn dangos addewid ond nid yw’r dystiolaeth glinigol ac economaidd yn ddigonol i gefnogi ei fabwysiadu fel mater o drefn.
Canllaw
GUI064 08.2025
Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR064 08.2025
Adroddiad Archwilio Pwnc
(superseded by EAR064 08.2025)