Technoleg Iechyd Cymru i ailgychwyn cyfarfodydd Panel Arfarnu a’r broses cyhoeddi Canllawiau

Wrth i’r systemau iechyd a gofal ddechrau dychwelyd i weithgareddau arferol, bydd Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn ailgychwyn ein cyfarfodydd Panel Arfarnu a chyhoeddiad Canllawiau cenedlaethol newydd.
Bydd y Panel Arfarnu’n cyfarfod yn rhithwir ar ddydd Mawrth 28 Gorffennaf 2020 a’r pynciau fydd yn cael eu trafod yw:
- Profi ymarfer corff cardio-anadlol
- Trawsblannu bôn-gelloedd gwaedfagol awtologaidd
Rydym wedi parhau gyda’n gwaith arfarnu tystiolaeth arferol drwy gydol pandemig clefyd coronafeirws (COVID-19), fel ein bod yn barod i lunio Canllawiau cenedlaethol newydd pan fo hynny’n briodol.
Ar ôl atal y prosesau arfarnu a chyhoeddi Canllawiau dros dro ar 17 Mawrth 2020, rydym yn gyfforddus bod ailgychwyn y prosesau hyn fis nesaf yn briodol.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein rôl i wella ansawdd gofal yng Nghymru.
Mwy:
Dros y tri mis diwethaf, rydym wedi bod y gweithio gyda’n partneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi’r ymateb i COVID-19. Mae ein gwaith wedi cynorthwyo pwyllgorau a grwpiau allweddol, yng Nghymru a thu hwnt i Gymru, i wneud penderfyniadau sydd wedi’u llywio gan dystiolaeth mewn sefyllfa ddigynsail sy’n datblygu’n gyflym.
Rydym wedi cynhyrchu adolygiadau tystiolaeth, wedi diweddaru crynodeb tystiolaeth yn rheolaidd, wedi rhoi cyngor gwyddonol am ddim i arloeswyr technolegau COVID-19, a chydweithio gyda’r cymunedau asesu technolegau iechyd ac ymchwil ehangach.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith cysylltiedig â COVID-19.