Digwyddiad

06 Chwefror, 2019

Technoleg Iechyd Cymru i gynnal weithdai

Health workshops logo

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi cydweithio gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru (HGBC) er mwyn eich cyflwyno i gysyniadau a dulliau allweddol ym meysydd Asesu Technoleg Iechyd ac Economeg Iechyd.

Rydym yn rhedeg cyfres o weithdai tair awr, rhyngweithiol, AM DDIM o fis Mawrth i fis Rhagfyr.  Byddant yn cael eu dysgu gan arbenigwyr HYTA ac HE, ac yn defnyddio esiamplau o fywyd go iawn o’n gwaith.

Pam fod hyn yn bwysig?

Bydd datblygiadau mewn technolegau iechyd yn cael effaith fawr ar ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd ein gweithdy Asesu Technoleg Iechyd (ATI) yn eich cyflwyno i ddulliau allweddol a ddefnyddir i arfarnu technolegau iechyd a deall eu gwerth posibl i ddefnyddwyr gwasanaeth, darparwyr a phartneriaid technoleg.

Bydd y gweithdy Economeg Iechyd (EI) yn eich cyflwyno i’r dulliau gwerthuso economaidd a ddefnyddir er mwyn deall effeithiolrwydd cost ac effaith technolegau iechyd a gofal ar adnoddau.

Pwy all fynychu’r gweithdai?

Pawb! Os oes gennych ddiddordeb arbenigol neu bersonol mewn iechyd a gofal cymdeithasol, bydd ein gweithdai Asesu Technoleg Iechyd ac Economeg Iechyd yn rhoi cyflwyniadau i’r pynciau pwysig hyn.

CLICIWCH YMA I GADW EICH LLE

CLICIWCH YMA I LAWRLWYTHO’R PAMFFLED LLAWN