Newyddion

03 Mawrth, 2020

Technoleg Iechyd Cymru a NICE yn cyhoeddi cydweithrediad strategol

Two representatives from HTW and NICE sign a strategic alliance

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), wedi ymrwymo’n ffurfiol i weithio gyda’i gilydd i wella eu Canllawiau annibynnol ac awdurdodol ar dechnolegau nad ydynt yn ymwneud â meddyginiaethau.

Maen nhw wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, sy’n amlinellu eu cydweithrediad o ran cynllunio’n strategol a darparu Canllawiau technoleg feddygol yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r ddau sefydliad yn cynnal Asesiadau o Dechnolegau Iechyd (HTA) i weld pa mor ddiogel, clinigol a chost-effeithiol ydy dyfeisiau meddygol arloesol. Mae’r broses hon yn cymryd i ystyriaeth y dystiolaeth orau sydd ar gael, yn ogystal â mewnbwn gan gleifion, gofalwyr a chlinigwyr.

Mae gan y ddau sefydliad ddiddordeb cyffredin mewn gwella mynediad cleifion i dechnolegau a thriniaethau effeithiol nad ydynt yn ymwneud â meddyginiaethau, ac maen nhw’n cynhyrchu Canllawiau i alluogi darparwyr gofal i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

“Mae’n bleser gennym ffurfioli ein perthynas â NICE,” meddai’r Athro Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori Technolegau Meddygol NICE. “Mae NICE yn rhannu ein rôl o ran hyrwyddo’r defnydd o dechnolegau meddygol sy’n cynnig y budd mwyaf i bobl Cymru. Mae’n amserol ein bod ni’n cydweithio i rannu adnoddau a gwybodaeth, fel y gallwn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl o waith y ddau sefydliad o ran gwella iechyd pobl yng Nghymru.”

Dywedodd Meindert Boysen, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Gwerthuso Technoleg Iechyd yn NICE: “Mae NICE yn croesawu’r cytundeb hwn gyda Technoleg Iechyd Cymru, sydd â’r nod o wella’r ffordd mae’r ddau sefydliad yn cydweithio ac yn cyfathrebu ym maes pwysig meddygaeth technolegau.”

Mae Technoleg Iechyd Cymru yn gorff cenedlaethol a sefydlwyd yn 2017 i weithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thechnoleg i ddarparu dull strategol o nodi, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd newydd. Mae’r sefydliad yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i letya o fewn GIG Cymru, ond mae’n annibynnol ar y ddau. Mae eu cylch gwaith yn cynnwys unrhyw dechnoleg iechyd nad yw’n feddyginiaeth, fel dyfeisiau meddygol, triniaethau llawfeddygol, therapïau seicolegol neu delefonitro.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am Technoleg Iechyd Cymru.

Sefydlwyd NICE ym 1999, a daeth yn Gorff Cyhoeddus Anadrannol yn 2013. Mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gymru, ac mae’n rhoi Cyngor Cenedlaethol ar hybu iechyd da, ac ar atal a thrin afiechydon. Mae NICE yn cynhyrchu ystod o Ganllawiau sy’n ymwneud â thechnolegau nad ydynt yn feddyginiaethau.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am NICE.

Bydd Technoleg Iechyd Cymru yn archwilio’r defnydd o Ganllawiau a gynhyrchir gan y ddau sefydliad, ac yn monitro sut maen nhw’n cael eu defnyddio gan ddarparwyr gofal yng Nghymru. Bydd y ddau sefydliad yn derbyn amrywiaeth o fuddion eraill wrth iddynt weithio gyda’i gilydd, er enghraifft wrth ddewis pynciau technoleg i’w harfarnu a’r dulliau o arfarnu technoleg. Mae gan Technoleg Iechyd Cymru drwydded hefyd, i ddefnyddio Offeryn META NICE (Medtech Early Technical Assessment Tool), ac mae eisoes yn defnyddio HealthTech Connect, y system hysbysu ar-lein i adnabod technolegau wrth iddynt symud o’r cam cyntaf i gael eu mabwysiadu yn systemau iechyd a gofal y DU.