Newyddion

16 Tachwedd, 2020

HTW yn ymuno’n swyddogol ag EUnetHTA

Mae Technoleg Iechyd Cymru bellach yn Aelod Cyswllt o’r Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Asesu Technoleg Iechyd (EUnetHTA).

Derbyniodd Bwrdd Gweithredol EUnetHTA gais i ffurfioli ein haelodaeth ym mis Hydref, ac rydym bellach wedi cael ein croesawu’n swyddogol i’r cydweithio rhyngwladol.

Mae EUnetHTA, a gynigiwyd gyntaf yn 2004 ac a sefydlwyd yn 2009, yn hwylusydd ar gyfer cydweithredu asesu technoleg iechyd o safon (HTA) yn Ewrop. Ei nod ydy cefnogi cydweithio rhwng sefydliadau HTA Ewrop, a chyflwyno gwerth ychwanegol i systemau gofal iechyd ar lefelau Ewropeaidd, cenedlaethol a rhanbarthol.

Dywedodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru: “Mae gweithio gyda chydweithwyr Ewropeaidd sy’n rhannu ein gwerthoedd yn bwysig iawn o ran ein rôl i geisio gwella ansawdd y gofal yng Nghymru. Rydym eisoes wedi cydweithio ag EUnetHTA i sicrhau’r defnydd gorau o dystiolaeth ac arbenigedd wrth gynhyrchu ein Canllawiau cenedlaethol, ac rydym wedi ymrwymo i barhau â’n perthynas.

“Drwy’r rhwydwaith, rydym yn hyrwyddo defnydd mwy effeithiol o adnoddau, yn cynyddu’r broses gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac yn cyfnewid gwybodaeth fethodolegol. Bydd strwythur EUnetHTA yn ein helpu i fod o fudd i systemau gofal iechyd yng Nghymru ac ar draws Ewrop.”

Yn 2020, rydym wedi sgrifennu nifer o adolygiadau cydweithredol gydag EUnetHTA mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae’r rhain yn cynnwys rôl profion gwrthgyrff, cywirdeb diagnostig dulliau moleciwlaidd a therapi plasma ymadfer.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am EUnetHTA.