Newyddion

23 Medi, 2025

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn helpu 64,000 o gleifion i gael mynediad at arloesedd yn 2024-25

 

Mae Adroddiad Blynyddol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar gyfer 2024-25 yn tynnu sylw at sut mae cydweithio ar draws sectorau yn mynd i’r afael â heriau yn y byd go iawn ac yn gwneud gwahaniaeth parhaol i iechyd, cyfoeth a llesiant Cymru a’i phobl.

 

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yma i helpu i sbarduno datblygiadau arloesol ysbrydoledig yn y gwyddorau bywyd i gyrraedd y rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Mae eu tîm yn gweithio i

gefnogi diwydiant, sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol a sefydliadau academaidd sy’n rhannu’r un nod, sef defnyddio syniadau newydd i reoli, osgoi ac atal iechyd gwael.

 

Mae eu Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2024-25 yn dangos sut maent yn gwneud hyn. Mae’n edrych ar y prosiectau maent wedi’u cefnogi dros y flwyddyn ddiwethaf, a’u heffaith ar iechyd a llesiant pobl ledled Cymru,

datblygu economaidd, a’n cydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Dyma gipolwg ar ffigurau 2024-25:

Gwneud bywyd yn well i gleifion yng Nghymru

64,606 o gleifion wedi cael mynediad at arloesedd

1,040 yn llai o ddiwrnodau wedi’u treulio yn yr ysbyty gan gleifion

2,191 yn llai o ymweliadau clinigol

 

Sbarduno twf economaidd yng Nghymru

Sicrhau £3.895 miliwn o dwf yng Ngwerth Ychwanegol Gros y Cwmnïau yng Nghymru

Sicrhau £5.046 miliwn o gyllid

Denu gwerth £2.44 miliwn o fuddsoddiad

 

Cefnogi’r ecosystem iechyd a gofal cymdeithasol

Cefnogi 8 o brosiectau mabwysiadu

Cwblhau 119 o asesiadau arloesi

Llunio 16 adroddiad gwybodaeth am y farchnad, 28 adroddiad sganio cyflym, 4 adroddiad sector a 4

adroddiad rhyngwladol

At ei gilydd, maent wedi sicrhau enillion ar fuddsoddiad o £9 am bob £1 a wariwyd.

 

Dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae’r adroddiad hwn yn brawf o bwysigrwydd arloesi cydweithredol ar draws y maes gwyddorau bywyd.

“Mae arloesi wrth galon y gwaith o drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan ein helpu i sicrhau canlyniadau gwell i bobl. Mae’n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o leihau amseroedd aros, gwella mynediad

at ofal, a thrawsnewid sut rydym yn canfod ac yn trin clefydau fel canser.

 

“Ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn parhau i fod yn gatalydd ar gyfer arloesi drwy ei raglenni cymorth, ei brosiectau a’i bartneriaethau pwrpasol. Mae ei waith yn gwella canlyniadau

ac yn cryfhau ein heconomi.”

 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Mae ein Hadroddiad Blynyddol diweddaraf yn dangos pŵer cydweithio a’r datblygiadau arloesol anhygoel sy’n trawsnewid y ffordd mae iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu ledled Cymru.

“Rydym yn falch o fod yn bartner ar gyfer prosiectau arloesi ym maes iechyd, boed hynny ar gyfer presgripsiynau digidol neu ddiagnosteg canser arloesol – mae ein gwaith yn parhau i gael effaith go iawn.

Yn 2024-25, rydym wedi gweld 64,606 o gleifion yn cael mynediad at arloesedd, sy’n 29% o gynnydd o’i gymharu â’r hyn a gofnodwyd

gennym yn 2023-24. Mae ein cydweithrediad agos â diwydiant yn ganolog i’r llwyddiant hwn—gan gefnogi dros 100 o asesiadau arloesi a helpu busnesau i gyflwyno atebion sy’n gwella gofal ac yn ysgogi twf economaidd.

 

“Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, rydym yn dal yn benderfynol o hyrwyddo cydweithio, cefnogi busnesau gwyddorau bywyd twf uchel, a gosod Cymru fel arweinydd byd-eang mewn arloesi ym maes iechyd. Rydw i’n hynod falch o’r

hyn rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd.”

 

Mae Adroddiad Blynyddol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar gyfer 2024-25 ar gael i’w ddarllen yma.