Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn tynnu sylw at sut mae arloesi yn y maes iechyd yn gwella bywydau ac yn sbarduno twf economaidd

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cyhoeddi ei Adolygiad o’r Flwyddyn ar gyfer 2025-26, gan dynnu sylw at sut mae arloesi’n gwella mynediad at ofal, yn cyflymu diagnosis, yn rhoi hwb i fusnesau dyfu, ac yn helpu timau’r GIG a gofal cymdeithasol i fabwysiadu technolegau newydd. Mae’r Adolygiad o’r Flwyddyn yn dangos sut mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn parhau i sicrhau canlyniadau gwell – gwella bywydau pobl yng Nghymru, ac adeiladu dyfodol mwy iach a mwy ffyniannus.
Mae canser yn faes blaenoriaeth i Gymru o hyd. Eleni, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sefydlu llwybr Mabwysiadu Arloesi cenedlaethol ar gyfer canser – dull strwythuredig a chydweithredol sy’n rhoi llwybr clir a chyson i arloesi o’r cam adnabod i fabwysiadu.
Drwy’r Rhaglen Mynd i’r Afael â Chanser, sy’n dod â phartneriaid at ei gilydd i wella gwasanaethau canser drwy arloesi, mae’r sefydliad wedi darparu gweithdai cydweithredol ar draws gwahanol safleoedd canser. Daeth y rhain â gweithwyr proffesiynol y GIG o bob cwr o Gymru at ei gilydd i nodi lle gall arloesi wneud y gwahaniaeth mwyaf i ddiagnosis cynharach, llwybrau triniaeth a phrofiad cleifion.
Mae hyn hefyd yn cael ei gryfhau drwy bartneriaeth newydd gyda Cymorth Canser Macmillan i leihau’r gwahaniaethau sy’n bodoli mewn gofal canser ledled Cymru a helpu i ledaenu arferion gorau, er mwyn i fwy o bobl allu elwa ar y cymorth a’r canlyniadau gorau posibl.
Arloesi mewn iechyd yn gwneud bywyd yn well i bobl yng Nghymru
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi chwarae rhan ddylanwadol yn y gwaith o sicrhau £7.8 miliwn i helpu i drawsnewid gwasanaethau rheoli pwysau, gan ategu dulliau newydd a all wella mynediad a chanlyniadau i bobl sydd angen cymorth. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei gais gwerth £7.8 miliwn i helpu i drawsnewid gwasanaethau rheoli pwysau, a fyddai, os bydd yn llwyddiannus, yn ategu dulliau gweithredu newydd sy’n gallu gwella mynediad a chanlyniadau i bobl sydd eu hangen. Mae dros 500,000 o gleifion ledled Cymru bellach yn elwa ar bresgripsiynau electronig, sy’n gam mawr ymlaen o ran sut mae pobl yn cael eu meddyginiaethau, ac mae’r system bellach ar waith ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
Sbarduno twf economaidd yng Nghymru
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi helpu dros 200 o gwmnïau gwyddorau bywyd i dyfu, cydweithio ac uwchraddio, gan gryfhau ecosystem arloesi Cymru a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer partneriaethau.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at rôl Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru o ran cynorthwyo arloeswyr a phartneriaid ar draws y system – o helpu i nodi anghenion gwasanaeth a chysylltu sefydliadau, i gynorthwyo â cheisiadau am gyllid, datblygu tystiolaeth ac uwchgyfeirio atebion. Mae hyn yn cynnwys cymorth i gwmnïau yng Nghymru fel Goggleminds, Cynorthwywyd llwyfan realiti rhithwir Mediverse i uwchraddio, ochr yn ochr â £50,000 o gyllid Catalydd Twf Innovate UK i gyflymu’r gwaith o ddatblygu a defnyddio.
Pam mae hyn yn bwysig i Gymru?
Mae gan Gymru sector gwyddorau bywyd ffyniannus sy’n werth £3.59 biliwn, ac sy’n cyflogi dros 13,000 o bobl ar draws 287 o sefydliadau, gyda chanolfannau arbenigedd yn dod i’r amlwg ledled y wlad.
Mae’r heriau sy’n wynebu’r GIG yn cael eu cydnabod yn eang – galw cynyddol a phwysau ar y gweithlu, gyda’r angen i gyflawni mwy gydag adnoddau cyfyngedig. Mae arloesi yn y maes iechyd yn hanfodol i helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn, gan helpu â diagnosis cynharach, gofal mwy cyson, a chanlyniadau gwell i bobl ledled Cymru ar yr un pryd â chreu system iechyd fwy cynaliadwy a chadarn.
Mae gan Gymru’r uchelgais i arwain y ffordd, gydag ymchwil o’r radd flaenaf, llif o dalent a’r gallu i gydweithio i wella pethau ymhellach. Fodd bynnag, mae angen cysylltiadau cryfach ar draws y system a llwybrau cyflymach, o dystiolaeth i weithredu, er mwyn gweld cynnydd parhaus. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bodoli i greu’r amodau i hyn ddigwydd, gan ddod â phartneriaid at ei gilydd a chynorthwyo ag arloesi i gyrraedd y bobl a’r gwasanaethau sydd ei angen fwyaf.
Dywedodd Chris Martin, Cadeirydd Bwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Rydw i’n falch o’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni eleni drwy bartneriaeth a rhannu uchelgais. Mae dod â’r bobl iawn at ei gilydd wrth galon yr hyn mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ei wneud, fel bod arloesi ym maes iechyd yn cyrraedd y mannau pwysicaf. Eleni, dyna wnaethom ni. Llwybr arloesi cenedlaethol ar gyfer gofal canser, presgripsiynau electronig yn cyrraedd dros hanner miliwn o bobl, cynlluniau talent newydd yn cael eu hadeiladu ar gyfer dyfodol Cymru. Y tu ôl i bob un o’r cerrig milltir hyn mae rhwydwaith o bartneriaid ymroddedig – ar draws y llywodraeth, y GIG, diwydiant, y byd academaidd a’r trydydd sector – y mae eu huchelgais ar y cyd yn dod yn fyw drwy gydweithio, gan wneud gwahaniaeth i bobl, gwasanaethau ac economi Cymru.”
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae ein Harolwg o’r Flwyddyn yn brawf o bwysigrwydd arloesi cydweithredol ar draws y maes gwyddorau bywyd. Mae gan Gymru gyfle gwirioneddol i harneisio pŵer gwyddorau bywyd, gyda’r dalent, yr uchelgais a’r partneriaethau sydd eu hangen i ffynnu wrth arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Drwy barhau i gryfhau sut mae arloesi’n cael ei fabwysiadu a’i uwchraddio, gallwn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o helpu i fynd i’r afael â rhai o’r prif heriau sy’n wynebu’r GIG – er mwyn gwella iechyd a sicrhau economi gryfach a mwy cydnerth.”
Cliciwch i ddarllen Adolygiad o’r Flwyddyn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru