INAHTA yn lansio cronfa ddata ryngwladol newydd
Mae INAHTA (International Network of Agencies for Health Technology Assessment) wedi lansio cronfa ddata ryngwladol newydd.
Mae’r gronfa ddata yn cynnwys bron i 17,000 cofnod o adroddiadau Asesu Technoleg Iechyd (HTA) gan fwy na 120 o gynhyrchwyr gwahanol ar draws y byd. Mae’r gronfa ddata yn cael ei defnyddio i ddod o hyd i dystiolaeth a gwybodaeth o un lle.
Mae’r gwaith o Asesu Technoleg Iechyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, er mwyn hyrwyddo system iechyd gyfiawn, effeithlon o ansawdd uchel.
Cliciwch yma i weld cronfa ddata rhyngwladol Asesu Technoleg Iechyd.
Crëwyd yr adnodd rhyngwladol pwysig gan CRD (Centre for Reviews and Dissemination) ym 1996. Cymerodd INAHTA gyfrifoldeb am y gronfa ddata yn 2018 ac yna, dechreuodd ei ailadeiladu.
Mae gwelliannau i’r gronfa ddata newydd yn cynnwys cofnodion mwy, swyddogaeth chwilio syml, cryfach, a hidlwyr ar gyfer mireinio canlyniadau chwilio. Yn bwysig iawn, mae’r gronfa ddata yn cynnwys cofnodion prosiectau Asesu Technoleg Iechyd parhaus. Mae hyn yn galluogi cyllidwyr ac ymchwilwyr i ddarganfod gwaith sydd eisoes ar y gweill, a gallai helpu i leihau dyblygu anfwriadol.
Cydweithredu rhyngwladol
Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn aelod o INAHTA, ac roedd yn rhan o gydweithredu rhyngwladol i brofi’r gronfa ddata. Roedd hyn yn cynnwys darparu cyngor lefel uchel ar nodweddion a swyddogaethau’r gronfa ddata.
Rydym wedi dod yn aelodau o Bwyllgor Llywio Cronfa Ddata Asesu Technoleg Iechyd INAHTA, a byddwn yn cynnig mewnbwn rheolaidd i’r grŵp cynghori arbenigol.
Cliciwch yma i ddarllen yr astudiaeth achos o’n cydweithrediad gyda INAHTA.