Newyddion

04 Gorffennaf, 2022

Lansio apêl am atebion digidol i ddatrys heriau iechyd a gofal yng Nghymru

Rydym wedi dechrau chwilio am atebion digidol i’r heriau mwyaf sy’n wynebu sectorau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru heddiw.

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi lansio galwad pwnc agored digidol mewn ymgais i ddod o hyd i’r technolegau iechyd digidol mawr nesaf i Gymru.

Mae’n gwahodd gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, datblygwyr technoleg ac aelodau o’r cyhoedd i gyflwyno eu hatebion digidol erbyn 31Gorffennaf.

Mae technolegau iechyd digidol yn cynnwys apiau, rhaglenni a meddalwedd i’w defnyddio yn y system iechyd neu ofal. Gall unrhyw un gyflwyno pwnc, ac mae HTW yn blaenoriaethu pynciau sydd ag effaith ddisgwyliedig sylweddol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn technolegau iechyd digidol, sydd â’r potensial i fod o fudd uniongyrchol i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau neu eu gofalwyr.

Bydd HTW, sy’n arfarnu technolegau iechyd a gofal nad ydynt yn feddyginiaethau ac sy’n cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ynghylch p’un a ddylid eu mabwysiadu yng Nghymru neu beidio, yn asesu’r dystiolaeth sydd ar gael ar bob technoleg iechyd digidol a gyflwynir.

Bydd penderfyniad yn cael ei wneud wedyn ynghylch p’un a oes digon o dystiolaeth i gyhoeddi canllawiau a allai gefnogi mabwysiadu’r dechnoleg yng Nghymru.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Mae galw cynyddol am atebion digidol a allai fynd i’r afael â’r heriau cymhleth sy’n wynebu’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, yn enwedig wrth i ni ddod allan o’r pandemig COVID-19. Rydym eisoes wedi gweld sut y gall technoleg ddigidol chwyldroi gofal a gwella ansawdd bywyd pobl ar draws Cymru, a chaniatáu i’r rheini sydd â chyflyrau iechyd neu anghenion gofal cymdeithasol i fyw’n annibynnol am fwy o amser yn eu cymuned.

Mae’r galwad pwnc agored hwn yn gyfle cyffrous i ddod o hyd i dechnoleg newydd arloesol, sydd â’r potensial i fod o fudd uniongyrchol i gleifion neu’r rheini sy’n derbyn gofal cymdeithasol yng Nghymru.  Rydym yn wynebu heriau difrifol, ond mae atebion ar gael, sydd efallai ar fin cael eu mabwysiadu, ond heb gael eu mabwysiadu’n eang eto. Byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi datblygu neu sy’n gwybod am ateb o’r fath, i’w gyflwyno i Technoleg Iechyd Cymru i’w harfarnu.

Mae enghreifftiau o dechnolegau iechyd digidol sydd wedi cael eu harfarnu’n flaenorol gan HTW yn cynnwys Peiriant Monitro Glwcos Fflach FreeStyle Libre, sy’n caniatáu i gleifion diabetes fonitro lefelau’r glwcos yn eu gwaed drwy sganio synhwyrydd sydd yn cael ei osod o dan eu croen. Cyhoeddodd HTW ganllawiau yn argymell mabwysiadu Freestyle Libre yn rheolaidd ar draws Cymru.

Dywedodd yr Athro Peter Groves, Cardiolegydd Ymgynghorol Ymyriadol a Chadeirydd Technoleg Iechyd Cymru:

Rydym yn galw am awgrymiadau o dechnolegau iechyd digidol sydd â’r potensial i gael effaith sylweddol ar wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae potensial enfawr i dechnolegau arloesol fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu’r GIG a’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac mae’n bwysig bod HTW yn ymwybodol o’r cyfleoedd hynny. Drwy gyflwyno technoleg iechyd digidol i’n galwad pwnc agored, rydych yn helpu i lunio dyfodol ein gwasanaethau iechyd a gofal.

Meddai Paul Mears, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

 “Arloesi yw’r sbardun y tu ôl i bopeth a wnawn yn y GIG, sy’n ein galluogi i addasu i’r heriau sy’n ein hwynebu, a darparu’r gofal gorau posibl i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Bydd y galwad pwnc agored hwn yn galluogi HTW i ddod o hyd i atebion digidol arloesol, a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru.

Byddwn yn annog yn gryf unrhyw un sydd ag ateb digidol a fyddai, yn eu barn nhw, yn cefnogi’r sectorau iechyd neu ofal cymdeithasol yng Nghymru, i’w gyflwyno i HTW i’w arfarnu.

I gael gwybod mwy am y galwad pwnc agored a’r meini prawf ar gyfer cyflwyno pwnc, darllenwch ein cwestiynau cyffredin.