Newyddion

12 Ebrill, 2024

Lansio cyfeiriadur arloesedd newydd ar gyfer sefydliadau arloesi gwyddorau bywyd yng Nghymru

Image of a nursing scrolling for information on a laptop

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi lansio ei Gyfeiriadur Arloesedd i Gymru, gan ganiatáu i ddefnyddwyr chwilio a hidlo’n rhwydd drwy restr helaeth o sefydliadau yng Nghymru sy’n rhan o’r ecosystem arloesi ffyniannus.

 

Gan gynnwys cwmnïau gwyddorau bywyd sy’n darparu technoleg arloesol, a sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n cynnig gwasanaethau cymorth hanfodol, mae gan Gymru dirwedd arloesi gymhleth a chyfoethog. Fodd bynnag, mae’r nifer enfawr o sefydliadau sydd ar gael yn gallu ei gwneud hi’n anodd ei llywio. Mae Cyfeiriadur Arloesedd newydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn eich galluogi i chwilio a dod o hyd i’r wybodaeth, y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnoch.

 

Mae’r Cyfeiriadur Arloesedd ar gael am ddim ac mae’n cynnwys dros 260 o sefydliadau gwyddorau bywyd yng Nghymru, sy’n cynnwys:

 

  • Sefydliadau cymorth arloesi sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad
  • Sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol gan gynnwys Byrddau Iechyd, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a chyrff hyd braich
  • Sefydliadau academaidd
  • Sefydliadau’r llywodraeth fel Banc Datblygu Cymru

 

Mae pob cofnod yn cynnwys crynodeb o’r sefydliad a’i bwrpas, a gellir ei hidlo gyda pharamedrau gan gynnwys lleoliad, sector, gwasanaethau ac arbenigeddau.

 

Mae’r Cyfeiriadur Arloesedd yn y cam BETA ar hyn o bryd a bydd yn cael ei ddiweddaru a’i ehangu’n barhaus i gyd-fynd â’r dirwedd gwyddorau bywyd sy’n datblygu yng Nghymru.

 

Yn ôl Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

 

“Mae Cymru’n gartref i lu o sefydliadau gwyddorau bywyd anhygoel sy’n helpu i sbarduno arloesedd hanfodol ar reng flaen gofal. Mae ein Cyfeiriadur Arloesedd newydd yn adlewyrchu hyn, ac yn eich cyfeirio at y bobl iawn – p’un a oes angen cymorth arnoch gyda chyllid, gweithgynhyrchu, arweiniad neu ymchwil.”