Newyddion

08 Chwefror, 2023

Lansio ymgyrch i ddod o hyd i dechnolegau iechyd a gofal i helpu i wella bywydau pobl sy’n byw gyda chanser

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi lansio galwad pwnc agored i ddod o hyd i dechnolegau iechyd a gofal anfeddygol a allai wella bywydau pobl sy’n byw gyda chanser yng Nghymru.

Mae’n gwahodd gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, datblygwyr technoleg, academyddion ac aelodau’r cyhoedd i gyflwyno eu syniadau.

Bydd HTW, sy’n arfarnu technolegau iechyd a gofal nad ydynt yn feddyginiaeth ac sy’n cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ynghylch a ddylid eu mabwysiadu yng Nghymru, yn asesu’r dystiolaeth sydd ar gael ar bob technoleg iechyd neu ofal sy’n gysylltiedig â chanser a gyflwynir.

Bydd penderfyniad yn cael ei wneud wedyn ynghylch p’un a oes digon o dystiolaeth i gyhoeddi canllaw a allai gefnogi defnyddio’r dechnoleg yng Nghymru.

Mae enghreifftiau blaenorol o bynciau sy’n gysylltiedig â chanser y mae HTW wedi cyhoeddi canllawiau cenedlaethol arnynt, yn cynnwys radiotherapi abladol stereotactig (SABR) i drin carcinoma celloedd arennol. Yn ôl Canllaw HTW, mae’r dystiolaeth yn cefnogi defnyddio SABR yn rheolaidd i drin pobl â chanser yr arennau sydd ddim yn addas ar gyfer llawdriniaeth neu dechnegau abladol eraill.

Y llynedd, cyhoeddodd HTW ganllaw hefyd sy’n argymell mabwysiadu Radiotherapi Hypoffracsiynedig Eithafol (EHFRT) i drin canser cyfyngedig y prostad.  Canfu fod EHFRT mor effeithiol â gofal safonol, yn lleihau nifer yr ymweliadau mewn ysbytai, ac yn debygol o fod yn gost-effeithiol gan y gellir darparu mwy o ymbelydredd fesul triniaeth.

Yn ôl Cancer Research UK, bydd 1 o bob 2 berson yn y DU yn cael diagnosis o ganser yn ystod eu hoes. Bob blwyddyn, mae tua 19,500 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser.

Dylai unrhyw un a hoffai gymryd rhan wneud hynny drwy fynd i’r dudalen Awgrymu Pwnc ar wefan Technoleg Iechyd Cymru.