Lleisiau cleifion, gofalwyr a’r cyhoedd i gael eu clywed gan Technoleg Iechyd Cymru
Bydd lleisiau cleifion, gofalwyr ac aelodau’r cyhoedd yn cael eu clywed wrth i ni weithio i wella ansawdd y gofal yng Nghymru.
Rydym bellach wedi sefydlu ein Grŵp Sefydlog ar Gynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd, a fydd yn ddylanwadol o ran cefnogi dull cenedlaethol o adnabod, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd nad ydynt yn ymwneud â meddyginiaethau.
Mae amrywiaeth eang o dechnolegau iechyd yn ein cylch gwaith, a gall y rhain gynnwys; dyfeisiadau meddygol, gweithdrefnau llawfeddygol, therapïau seicolegol, telefonitro a modelau gofal.
Mae’r Grŵp Sefydlog yn cael ei gadeirio gan Claire Davis, Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd ac Arweinydd Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd. Meddai: “Mae cynnwys cleifion, gofalwyr ac aelodau o’r cyhoedd yn ein gwaith yn rhan bwysig o gynhyrchu Canllawiau ar gyfer comisiynwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
“Mae’n hanfodol cynnwys safbwyntiau cleifion a’r cyhoedd, yn ogystal â’r rheini sydd â rôl broffesiynol mewn systemau iechyd a gofal. Rydym yn edrych ymlaen at alluogi pawb i gael llais yn ein gwaith er mwyn sicrhau ymagwedd Cymru gyfan at dechnolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau. ”
Cafodd aelodau o’r Grŵp Sefydlog ar Gynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd eu recriwtio ar ddechrau 2019. Cynhaliodd y grŵp ei gyfarfod cyntaf ar 3 Ebrill 2019, a bydd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Pwrpas y grŵp ydy rhoi cyngor i gryfhau perthnasoedd â sefydliadau cleifion a gofalwyr, ac i sicrhau bod barn cleifion, gofalwyr ac aelodau’r cyhoedd yn cael ei defnyddio’n effeithiol i lywio ein proses gwneud penderfyniadau. Byddant yn ein helpu i wella Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd yn barhaus drwy gydol ein gwaith, ac i sicrhau bod safbwyntiau cleifion a’r cyhoedd yn cael eu cynrychioli’n deg.
Mae’r Grŵp Sefydlog ar Gynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd yn cynnwys y partneriaid cyhoeddus sydd newydd eu recriwtio sy’n eistedd ar y Grŵp Asesu a’r Panel Arfarnu, yn ogystal â chynrychiolwyr a chynghorwyr Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd o Gymru a thu hwnt, cynrychiolwyr sefydliadau ambarél y cleifion, ac Arweinydd Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd Technoleg Iechyd Cymru.
Bydd aelodau’r Grŵp Sefydlog ar Gynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd yn helpu i gasglu a chyflwyno safbwyntiau cleifion, gofalwyr a’r cyhoedd. Efallai y byddwch chi’n eu gweld nhw’n ein cynrychioli ni mewn digwyddiadau allanol hefyd, fel cynadleddau a digwyddiadau hyfforddi.
Gall aelodau’r Grŵp Sefydlog ar Gynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd fod ynghlwm mewn codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd hyn ac mewn darparu cymorth hefyd. Cliciwch yma i lenwi ein ffurflen ar-lein.