Newyddion

01 Rhagfyr, 2025

Lleisiwch eich barn ar ein Cynllun Strategol ar gyfer 2026-30

 

Hoffech chi leisio eich barn ar ein Cynllun Strategol diweddaraf?

Ar ôl cyflawni’r nodau a’r amcanion a oedd wedi cael eu gosod yn ein Cynllun Strategol 2021 i 2025, rydym nawr wedi creu Cynllun Strategol drafft ar gyfer 2026-30.

Mae’r Cynllun Strategol diweddaraf yn nodi ein nodau a’n hamcanion strategol tymor byr a chanolig ar gyfer y pedair blynedd nesaf.

Rydym yn awyddus i gasglu adborth ar gynnwys y cynllun drafft gan ein partneriaid, rhanddeiliaid a gan unrhyw un arall sydd â diddordeb yn ein gwaith a’i effaith yng Nghymru.

I gymryd rhan, ewch i’r dolenni canlynol:

Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar Ddydd Gwener 23 Ionawr 2026.