Newyddion

09 Rhagfyr, 2024

Mae Technoleg Iechyd Cymru yn chwilio am Gadeirydd ar gyfer y Panel Arfarnu

Mae Technoleg Iechyd Cymru yn chwilio am weithiwr gofal proffesiynol hynod brofiadol a gwybodus i gefnogi datblygu canllawiau cenedlaethol ar dechnolegau iechyd a gofal arloesol yng Nghymru, drwy gadeirio Panel Arfarnu HTW.

 

Mae’r swydd hon yn cynnig cyfle cyffrous i weithio ar lefel genedlaethol i gefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ar fabwysiadu technolegau meddygol mewn lleoliadau iechyd a gofal, trwy gadeirio panel amlddisgyblaethol o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol.

 

Grŵp cynghori yw’r Panel Arfarnu, sy’n ystyried cryfder tystiolaeth sydd yn cael ei harfarnu’n feirniadol ac unrhyw ffactorau sydd ddim yn bendant yng nghyd-destun iechyd a gofal yng Nghymru.  Mae trafodaethau fel arfer yn mynd i’r afael â materion fel diogelwch, effeithiolrwydd, effeithiolrwydd o ran cost, agweddau sefydliadol ac ystyriaethau cleifion a gofalwyr, wedi’u cefnogi gan fewnbwn arbenigol ar bwnc penodol.

 

Bydd y Panel Arfarnu yn helpu HTW i nodi pynciau blaenoriaeth cenedlaethol, gwerthuso’r nifer sy’n manteisio ar gyngor ar sail tystiolaeth, a hwyluso ymgysylltu â rhanddeiliaid hefyd. Mae ei aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o holl fyrddau iechyd lleol y GIG, grwpiau cymheiriaid cenedlaethol yn GIG Cymru, sefydliadau gofal cymdeithasol a rhanddeiliaid allweddol eraill gan gynnwys cynrychiolwyr cleifion, gofalwyr a’r cyhoedd, academyddion a phobl o’r byd diwydiant.

 

 

Mae rôl Cadeirydd y Panel Arfarnu yn cynnwys:

 

  • Cyfrannu at gyfeiriad strategol HTW i sicrhau ei fod yn adlewyrchu blaenoriaethau iechyd a gofal Cymru.
  • Cadeirio Panel Arfarnu HTW i sicrhau bod trafodaethau priodol a phenderfyniadau clir yn cael eu gwneud, ac i sicrhau tryloywder o ran y broses o ddatblygu canllawiau cenedlaethol ar sail tystiolaeth ar gyfer systemau iechyd a gofal Cymru.
  • Cefnogi staff HTW i gwblhau adroddiadau HTW a chyfathrebu’n glir â rhanddeiliaid.
  • Arwain y broses o ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddatblygu enw da HTW, ac annog sefydliadau iechyd a gofal i gymryd rhan.

 

Bydd gennych brofiad o gadeirio grwpiau amlddisgyblaethol, arbenigedd a diddordeb ym maes asesu technoleg iechyd a pholisi iechyd, a’r gallu i arwain, dylanwadu ac ysgogi holl randdeiliaid HTW.

 

Mae’r swydd hon yn gofyn am ymrwymiad o bedwar diwrnod y mis ar gyfer y cyfnod rhwng 4 Mawrth 2025 a 2027 Mawrth 2027. Gellir adnewyddu hwn trwy gytundeb ar y cyd ar ôl y tymor cychwynnol hwn.

 

Y tâl am y rôl hon yw £337 y diwrnod.

Mae HTW wedi’i leoli yng Nghaerdydd, ond gellir cyflawni’r rhan fwyaf o’r rôl o bell.

 

Dyddiad cau: 5 Ionawr 2025

 

I wneud cais am y swydd hon, dylech fewngofnodi neu greu cyfrif yn Trac yma.