Cyhoeddi adroddiad: Datblygu Swyddogaeth Archwilio HTW i Asesu Mabwysiadu Canllawiau ar draws Cymru

Rydym wedi cyhoeddi adroddiad gydag argymhellion ar gyfer swyddogaeth archwilio i asesu’r broses o fabwysiadu Canllawiau Technoleg Iechyd Cymru (HTW) a NICE ar dechnolegau nad ydynt yn ymwneud â meddyginiaethau (NMTs) yng Nghymru.
Mae hwn yn gam pwysig dros ben o ran lledaenu datblygiadau technolegol arloesol, ac mae wedi arwain at broses y cytunwyd arni i hwyluso a monitro; ystyried yn rheolaidd, defnyddio, (dat) gomisiynu a gweithredu canllawiau ar sail tystiolaeth yn GIG Cymru.
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad a’r argymhellion yn llawn: Datblygu Swyddogaeth Archwilio Technoleg Iechyd Cymru (HTW) i Asesu Mabwysiadu Canllawiau HTW a NICE ar Dechnolegau nad ydynt yn Feddyginiaethau ar draws Cymru
Mewn ymateb i ymchwiliad Llywodraeth Cymru i’r ddogfen ‘Mynediad i Dechnolegau Iechyd yng Nghymru’, sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Archwilio Mabwysiadu gennym yn 2019. Daeth y canlyniadau yn sgil trafodaethau a gynhaliwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Archwilio Mabwysiadu, a chyfweliadau lled-strwythuredig gyda rhanddeiliaid allweddol o Lywodraeth Cymru a GIG Cymru, yn cynnwys arbenigwyr caffael, comisiynu, clinigol ac arbenigwyr eraill.
Adolygodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Archwilio Mabwysiadu opsiynau, a chynigiwyd strwythur a phrosesau cysylltiedig. Bydd hyn yn galluogi archwiliad effeithiol o’r broses fabwysiadu a gweithredu canllawiau ar dechnolegau nad ydynt yn ymwneud â meddyginiaethau, a gyhoeddir gan HTW a Phwyllgor Ymgynghorol Technolegau Meddygol (MTAC) a Phwyllgor Ymgynghorol ar Ddiagnosteg (DAC) NICE.
Mae pwysigrwydd yr adroddiad a’r argymhellion yn deillio o’r gwahaniaethau adnabyddus rhwng y prosesau o ffurfio canllawiau ar gyfer meddyginiaethau a thechnolegau nad ydynt yn ymwneud â meddyginiaethau. Mae eu graddfeydd yn amrywio hefyd, ac mae tua 60-80 o feddyginiaethau newydd ar y farchnad bob blwyddyn, o’i gymharu â miloedd o ddyfeisiau ar gyfer ystod eang o ymyriadau.
Ceir cyfanswm o naw argymhelliad, gan gynnwys yr argymhelliad y dylai Cyfarwyddwyr Meddygol Cymru Gyfan, gyda’u cylch gwaith cenedlaethol ar gyfer effeithiolrwydd clinigol, fod y grŵp cymheiriaid cenedlaethol sy’n goruchwylio swyddogaeth archwilio HTW. Mae’r adroddiad yn argymell hefyd, dylai pob bwrdd iechyd lleol ymestyn cylch gwaith ei bwyllgor lleol i ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol i hwyluso archwiliad blynyddol o’r broses o wneud y newid i fabwysiadu canllawiau allweddol HTW a NICE ar dechnolegau nad ydynt yn feddyginiaethau.
Mae’r adroddiad yn amlinellu nodweddion allweddol swyddogaeth archwilio HTW, gan gynnwys TG; amcanion, cwmpas, graddfa, fformat, amlder a chynulleidfa. Mae hefyd yn nodi’r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen ar lefelau lleol a chenedlaethol i dreialu, gwerthuso a gweithredu swyddogaeth archwilio HTW.
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad a’r argymhellion yn llawn: Datblygu Swyddogaeth Archwilio Technoleg Iechyd Cymru (HTW) i Asesu Mabwysiadu Canllawiau HTW a NICE ar Dechnolegau nad ydynt yn Feddyginiaethau ar draws Cymru