Adnoddau asesu sy’n canolbwyntio ar atebion

Statws Testun Cyflawn

Offer asesu sy'n canolbwyntio ar atebion ar gyfer gwella triniaeth pobl ag afiechyd meddwl difrifol o fewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu DIALOG+ fel mater o drefn ar gyfer pobl sy’n cael triniaeth ar gyfer seicosis a sgitsoffrenia mewn lleoliad iechyd meddwl eilaidd.
Dangosir bod y defnydd DIALOG+ yn gwella ansawdd bywyd cyffredinol o’i gymharu â gofal safonol ond mae ei effaith ar symptomau seicolegol, bodlonrwydd â thriniaeth a mynd i’r
afael ag anghenion iechyd a chymdeithasol yn parhau i fod yn ansicr.
Mae tystiolaeth economaidd yn dangos bod DIALOG+ yn annhebygol o gynyddu costau iechyd a gofal cymdeithasol cyffredinol o gymharu â gofal safonol.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae seicosis a sgitsoffrenia yn salwch meddwl difrifol a hirdymor sy’n effeithio ar ganfyddiad, hwyliau ac ymddygiad person, gan arwain yn aml at effaith andwyol fawr ar eu bywydau a’u
perthnasoedd. Mae perthynas gref gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn hanfodol i sicrhau bod triniaeth yn effeithiol ar draws pob elfen o fywyd. Offeryn asesu ffynhonnell agored y gellir ei defnyddio am ddim yw DIALOG+, wedi’i lywio gan egwyddorion therapi sy’n canolbwyntio ar atebion (SFT). Gofynnir i bobl sy’n derbyn gofal raddio eu bodlonrwydd yn ymwneud ag 11 elfen o fywyd ar y cyd â’u gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddatblygu nodau triniaeth ar gyfer y dyfodol a dod i farn ynghylch eu cynnydd mewn ffordd strwythuredig

Crynodeb mewn iaith glir

 

Seicosis yw pan fydd person yn profi ac yn dehongli realiti mewn ffordd wahanol iawn i’r bobl o’i gwmpas. Mae’n un o nifer o symptomau sgitsoffrenia, sy’n anhwylder iechyd meddwl. Fodd bynnag, gall pobl hefyd gael seicosis heb sgitsoffrenia. Mae sgitsoffrenia yn un o nifer o anhwylderau seicotig. Yn ogystal â seicosis, gall sgitsoffrenia gynnwys symptomau eraill megis meddwl anhrefnus, anawsterau lleferydd a symud a newidiadau mewn ymateb emosiynol.

Bydd pobl â seicosis a sgitsoffrenia yn aml yn cael cymorth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys apwyntiadau rheolaidd gyda therapydd. Pan wneir hyn yn dda, gall arwain at welliannau i les person, gan ei helpu i gyflawni ei nodau a gwella ei amgylchiadau. Fodd bynnag, gall fod yn anodd cael y budd gorau o’r apwyntiadau hyn gan fod gofal yn amrywio rhwng lleoliadau.

Gellir defnyddio offer therapi sy’n canolbwyntio ar atebion (SFT) i helpu pobl i gyfathrebu’n dda â’u therapyddion. Nod SFT yw helpu pobl i ddod o hyd i atebion i anawsterau y maent yn eu hwynebu o ganlyniad i gyflwr iechyd meddwl. Anogir y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth iechyd meddwl i weithio tuag at y dyfodol drwy gefnogi eu sgiliau, strategaethau a syniadau presennol. Maent yn cael eu hystyried fel yr arbenigwr yn eu bywydau eu hunain, ac yn gweithio gyda chlinigwyr i ddod o hyd i ffyrdd ymlaen.

Mae DIALOG+ yn enghraifft o offeryn SFT sy’n edrych ar ansawdd bywyd person a’i fodlonrwydd â’i driniaeth. Mae’n golygu bod person yn graddio ei fodlonrwydd o ran wyth elfen bywyd a thair agwedd ar driniaeth gan ddefnyddio graddfa 7 pwynt ar ddyfais megis cyfrifiadur neu ddyfais llechen. Defnyddir y mesurau hyn i fonitro cynnydd a datblygu nodau triniaeth ar gyfer y dyfodol.

Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar y defnydd o DIALOG+ ac offer tebyg ar gyfer pobl â seicosis a sgitsoffrenia mewn lleoliadau gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu DIALOG+ fel mater o drefn ar gyfer pobl sy’n cael triniaeth ar gyfer seicosis a sgitsoffrenia mewn lleoliad iechyd meddwl eilaidd.

Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR050 09.2023

Canllaw

GUI050 09.2023

GUI

Mae ein dogfennau cyngor yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ond buasem yn ddiolchgar pe gallech ein helpu i wella ein gwasanaethau drwy ddweud wrthym pam eich bod chi’n edrych ar ein cyngor.

Hepgor y ffurflen a lawrlwytho ffeil Cau

    Efallai yr hoffem gysylltu â chi trwy e-bost i gael gwybod mwy am sut y gwnaethoch ddefnyddio'r dogfennau.