Adolygiad o sganiau pelydr-x a CT o’r frest gyda chymorth Deallusrwydd Artiffisial
Statws Testun Anghyflawn
Adolygiad o sganiau pelydr-x a CT o'r frest gyda chymorth Deallusrwydd Artiffisial i ddiagnosio canser yr ysgyfaint
Crynodeb
Mae technolegau Deallusrwydd Artiffisial wedi’u datblygu i gynorthwyo arbenigwyr radioleg i adolygu pelydrau-x o’r frest a sganiau CT o’r frest, i dynnu sylw at nodiwlau amheus a chanser posibl. Y gobaith yw y bydd hyn yn symleiddio llwybrau canser cleifion ac yn arwain at ddiagnosis cyflymach.
Bu ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru yn chwilio am dystiolaeth ar dechnolegau Deallusrwydd Artiffisial sydd yn gallu helpu i adolygu sganiau pelydr-x neu CT o’r frest wrth wneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER588 01.2025