Canfod haemolysis adeg y gofal
Statws Testun Cyflawn
Canfod haemolysis adeg y gofal mewn samplau gwaed y gellir eu hystyried yn anaddas ar gyfer cael eu dadansoddi mewn labordy.
Canlyniad yr arfarniad
Cynhaliodd HTW adolygiad o dystiolaeth i fynd i’r afael â’r cwestiwn canlynol: ydy canfod haemolysis adeg y pwynt gofal mewn gofal eilaidd yn effeithiol o safbwynt clinigol, ac yn gosteffeithiol o’i gymharu â chanfod haemolysis mewn labordai.
Barnwyd bod y dystiolaeth a nodwyd o ddefnydd cyfyngedig i’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau. Nid oedd digon o dystiolaeth ar y defnydd o’r prawf, yn enwedig o ran sut mae ei ddefnydd yn dylanwadu ar yr angen am ail-samplu, a’r amser a gymerir i ail-samplu pan fydd profion gwaed yn cael eu cymryd a haemolysis yn bresennol.
Daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad nad oes digon o dystiolaeth ar gael ar hyn o bryd ar ganfod haemolysis adeg y pwynt gofal i lywio’r gwaith o gynhyrchu Canllawiau. Felly, ni fydd y pwnc hwn yn symud ymlaen i’r Panel Arfarnu, ac ni fydd yn derbyn argymhellion yng Nghanllawiau HTW.
Mae Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth 021 yn darparu adroddiad llawn o’r dystiolaeth ar y pwnc hwn.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Haemolysis ydy rhyddhau haemoglobin a chydrannau rhyng-gelloedd eraill o gelloedd gwaed coch i’r plasma amgylchynol yn dilyn difrod neu aflonyddwch i’r gellbilen. Dangoswyd bod haemolysis yn cyflwyno rhagfarn ystyrlon mewn sawl paramedr nwy gwaed ac electrolyt. Felly, mae clinigwyr mewn perygl o seilio penderfyniadau clinigol ar ddata gwallus oherwydd haemolysis, a allai arwain at ddigwyddiadau andwyol.
Mae profion adeg y pwynt gofal yn galluogi staff gofal iechyd i brofi gwaed am haemolysis yn uniongyrchol wrth ochr y claf.
Crynodeb mewn iaith glir
Haemolysis yw pan fydd celloedd coch y gwaed yn torri/byrstio, a bod eu cynnwys yn cael eu rhyddhau i’r hylif sy’n gwneud gwaed, o’r enw plasma. Mae hyn yn gallu digwydd yn ystod, neu ar ôl cymryd sampl gwaed. Mae hyn yn broblem oherwydd bod yr haemolysis yn gallu dylanwadu ar ganlyniadau rhai profion gwaed. Mae profion gwaed yn rhan hanfodol o ddiagnosio a thrin nifer o afiechydon, felly mae’n bwysig bod canlyniadau profion gwaed yn gywir. Haemolysis yw’r rheswm mwyaf cyffredin pam bod sampl gwaed yn cael ei wrthod, a pam bod angen sampl arall.
Mae profion adeg y pwynt gofal, sydd yn cael ei alw’n ’near patient-testing’ hefyd ar gyfer haemolysis, yn galluogi staff gofal iechyd i brofi gwaed am haemolysis yn uniongyrchol wrth ochr y claf, cyn i’r sampl gwaed gael ei anfon i’r labordy. Os nad yw haemolysis yn cael ei ganfod, yna gellir anfon y sampl i’r labordy; os ydy haemolysis yn cael ei ganfod, yna gellir cymryd sampl arall ar unwaith. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i gleifion barhau i ddod yn ôl i gael samplau gwaed, ac na fydd cleifion yn gorfod aros am amser hir i aros am ganlyniadau profion oherwydd bod haemolysis yn cael ei ganfod mewn samplau gwaed. Yn ogystal, mae profion adeg y pwynt gofal yn golygu y gellir gwirio gwaed sydd yn cael ei fewnosod mewn dadansoddwyr nwy gwaed ar gyfer haemolysis. Ar hyn o bryd, does gan ddadansoddwyr nwy gwaed ddim y gallu i ganfod haemolysis.
Edrychodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth bod canfod haemolysis ar adeg y pwynt gofal yn ddull effeithiol o’i gymharu â’r dulliau arferol o ganfod haemolysis. Ceir tystiolaeth sy’n awgrymu bod canfod haemolysis adeg y pwynt gofal yn gallu canfod presenoldeb haemolysis yn gywir mewn samplau gwaed. Fodd bynnag, ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth bod canfod haemolysis ar adeg y pwynt gofal yn lleihau’r amser sydd ei angen ar gyfer dadansoddi sampl, ac ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth ychwaith yn ymwneud â boddhad cleifion o ran profi fel hyn. Felly, nid yw’n glir os ydy cynnal profion haemolysis ar adeg y pwynt gofal yn gwneud samplu gwaed yn fwy effeithlon i staff a chleifion, nac ychwaith, a fyddai ei gyflwyno’n arbed arian. Oherwydd yr ansicrwydd hwn, ni fydd HTW yn llunio canllawiau ar ddefnyddio’r dechnoleg hon ar hyn o bryd.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER123 01.2020
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR021 10.2020