Tomograffeg gyfrifiadurol pelydr conigol y fron
Statws Testun Anghyflawn
Tomograffeg gyfrifiadurol pelydr conigol y fron i greu delweddau o’r fron
Crynodeb
Fel arfer, mae sgrinio am ganser y fron yn cael ei wneud yn defnyddio mamograffeg ddigidol maes llawn. Gellir defnyddio sganiau delweddu cyseiniant magnetig (MRI), sganiau tomograffeg gyfrifiadurol (CT), delweddu uwchsain neu fiopsi hefyd i ymchwilio i ganser y fron. Gellir defnyddio tomograffeg gyfrifiadurol pelydr conigol y fron (CBBCT) i greu delweddau tri dimensiwn cydraniad uchel o feinwe’r fron.
Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o ddefnyddio tomograffeg gyfrifiadurol pelydr conigol y fron i sgrinio ac i greu delweddau o’r fron
Ar sail y dystiolaeth a nodwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i gael ei arfarnu.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER594 03.2025