Defnyddio dyfais monitro di-wifr yn barhaus yn yr ysbyty

Statws Testun Cyflawn

Defnyddio dyfais monitro di-wifr yn barhaus i fonitro symptomau pwysig ar wardiau cyffredinol

Crynodeb

 

Gall defnyddio dyfais monitro di-wifr yn barhaus ar wardiau llawfeddygol cyffredinol a meddygol, yn defnyddio technoleg y gellir ei gwisgo, rybuddio staff wardiau am ddirywiad cleifion yn fwy cyflym na’u monitro nhw bob hyn a hyn. Mae gwahanol systemau ar gael sydd fel arfer, yn mesur dau neu fwy o’r canlynol: ECG, cyfradd y galon, cyfradd anadlu, dirlawnder ocsigen, pwysedd gwaed a thymheredd.

 

Ar sail y dystiolaeth a nodwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i gael ei arfarnu.