Cynnal profion procalcitonin ar y pwynt gofal

Statws Testun Cyflawn

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol a’r costeffeithiolrwydd o gynnal profion procalcitonin ar y pwynt gofal i asesu a thrin sepsis mewn plant. Penderfynodd Grŵp Asesu HTW i symud y pwnc hwn ymlaen i Arfarnu’r Dystiolaeth.

Canlyniad yr arfarniad

 

Daeth Grŵp Asesu Technoleg Iechyd Cymru i’r casgliad nad oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd ynghylch canlyniadau profion procalcitonin ar y pwynt gofal (POCT) i lywio’r gwaith o lunio canllawiau.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae sepsis yn gyflwr a allai beryglu bywyd, ond yn aml, mae’n anodd ei ddiagnosio (yn enwedig mewn plant). Mae hyn yn gallu arwain at or-ragnodi  gwrthfiotigau, sy’n cyfrannu at ymwrthedd i gyffuriau, sy’n broblem fyd-eang. Gellir defnyddio Procalcitonin POCT mewn lleoliadau argyfwng i asesu heintiau yn gyflym (i wahaniaethu rhwng heintiau bacteria a feirysol) mewn oedolion a phlant sydd dan amheuaeth o fod yn dioddef o sepsis. Gallai hwyluso penderfyniadau o ran rhagnodi’n gynnar leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig ag oedi diagnosis, a lleihau’r tebygrwydd o or-drin cleifion.