DeltaScan-Monitor Cyflwr yr Ymennydd
Topic Status Complete
Deltascan – Monitor Cyflwr yr Ymennydd ar gyfer diagnosio enseffalopathi acíwt a/neu deliriwm
Crynodeb
Mae DeltaScan – Monitor Cyflwr yr Ymennydd, yn ddyfais electroenceffalograffi (EEG) wrth ochr y gwely, sydd â’r nod o benderfynu p’un a ydy claf yn dioddef o ddeliriwm a/neu enseffalopathi acíwt neu beidio. Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar ddefnyddio EEG i ddiagnosio deliriwm, drwy ganolbwyntio ar ddyfeisiau EEG fel DeltaScan. Penderfynodd Grŵp Asesu HTW i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i gael ei arfarnu’n llawn, gan fod y dystiolaeth ar ei ddefnydd yn dal i ddatblygu.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER324 02.2022