Diffibrilwyr cardiaidd y gellir eu gwisgo

Statws Testun Cyflawn

Diffibrilwyr cardiaidd y gellir eu gwisgo ar gyfer pobl sydd mewn perygl o farw oherwydd problemau’r galon

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu diffibrilwyr cardiaidd gwisgadwy mewn rhai cleifion, ond nid pob un, sy’n oedolion ac yn wynebu risg uchel o farwolaeth cardiaidd sydyn.
Ar gyfer cleifion sydd angen tynnu diffibrilwr cardiaidd mewnblanadwy a bod oedi cyn ailblannu, teimlir bod defnyddio diffibrilwyr cardiaidd gwisgadwy yn effeithiol yn glinigol ac o ran cost, ac mae HTW yn cefnogi eu defnydd ar gyfer hyn.
Ar gyfer cleifion y mae oedi nad oes modd ei osgoi mewn gwneud penderfyniad am yr angen posibl am ddiffibriliwr cardiaidd mewnblanadwy parhaol, mae ansicrwydd ynglŷn â manteision
dyfeisiau diffibriliwr cardiaidd gwisgadwy ac nid yw’n ymddangos eu bod yn gost-effeithiol. Nid yw HTW yn argymell defnydd fel mater o drefn ar gyfer y boblogaeth honno.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Achos mwyaf cyffredin marwolaeth cardiaidd sydyn yw aflonyddwch rhythm sy’n tarddu o brif siambrau pwmpio’r galon, y fentriglau. Gall gweithgaredd trydanol annormal yn y fentriglau
arwain at ffibriliad fentriglaidd neu dacycardia fentriglaidd, ac mae’r rhain yn gysylltiedig â nifer o wahanol glefydau cardiaidd. Gellir lleihau’r risg o ddatblygu tarfiadau rhythm o’r fath gyda thriniaethau â chyffuriau ond nid ei ddileu yn llwyr. Triniaeth ychwanegol safonol mewn rhai cleifion yw gosod diffibriliwr cardiaidd mewnblanadwy (ICD) yn y galon sy’n gallu rhoi sioc drydanol i du fewn y galon i roi terfyn ar darfiad rhythm fentriglaidd sy’n peryglu bywyd, pe bai’n
digwydd.

Fodd bynnag, gall sefyllfaoedd godi pan fydd pobl mewn perygl mawr o farwolaeth cardiaidd sydyn ac efallai na fydd gosod ICD parhaol yn angenrheidiol neu’n ddymunol. Er enghraifft, yn
dilyn digwyddiad aciwt fel trawiad ar y galon neu achos o lid aciwt yng nghyhyr y galon, gall y risg o farwolaeth sydyn leihau gydag amser, wrth i’r galon wella ac wrth i feddyginiaeth gael ei
hoptimeiddio. O dan yr amgylchiadau hyn, efallai na fydd ICD parhaol yn angenrheidiol ond mae cyfnod o ansicrwydd yn anochel. Yn yr un modd, mewn cleifion sydd eisoes ag ICD wedi’i osod a bod y system yn cael ei heintio a bod angen tynnu’r ddyfais, mae cyfnod o amser gorfodol pan fydd angen trin yr haint cyn ei bod yn ddiogel mewnblannu dyfais newydd. Mae pob un o’r sefyllfaoedd hyn yn gwneud pobl yn agored i gyfnodau cymharol fyr o amser pan fydd y risg o farwolaeth cardiaidd sydyn yn parhau.

Dyfais debyg i fest a wisgir ac sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â’r croen yw diffibriliwr cardiaidd gwisgadwy sy’n monitro rhythm y galon yn barhaus ac sy’n rhoi sioc drydan allanol yn
awtomatig, o fewn munud i ganfod arhythmia. Bwriedir i ddiffibriliwr cardiaidd gwisgadwy gael ei wisgo fel mesur dros dro yn ystod cyfnod o adferiad ac optimeiddiad meddyginiaeth neu tra’n aros am fewnblaniad/ailblaniad ICD.
Cyflwynwyd y pwnc hwn i HTW gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC).

Crynodeb mewn iaith glir

 

Gall pobl sydd â phroblem gyda’u calon, sy’n arwain at rythm calon afreolaidd, fod â risg uchel y bydd eu calon yn stopio’n sydyn. Gall y boblogaeth hon gynnwys pobl â chardiomyopathi, methiant y galon, llid y galon, clefyd rhydwelïau coronaidd, clefyd falf y galon, rhai cyflyrau genetig sy’n effeithio ar y galon, rhai cyflyrau ar y galon yn ystod beichiogrwydd, a phobl sydd wedi cael trawiad ar y galon yn ddiweddar ac nid yw eu calon yn dal i fod bwmpio gwaed yn effeithiol.

Er mwyn atal achosion pellach o rythm calon afreolaidd a phroblemau’r galon, gall meddygon argymell cyfnod o amser pan fydd pobl yn cymryd meddyginiaethau penodol. I rai pobl, gall y meddyginiaethau hyn helpu i ddatrys y broblem. I eraill sydd â risg uchel parhaol y bydd eu calon yn stopio’n sydyn, efallai y bydd meddygon yn argymell datrysiadau tymor hwy, fel diffibriliwr cardiaidd mewnblanadwy (ICD) sy’n cael ei osod yn barhaol ym mrest pobl. Mae yna hefyd grŵp o bobl sydd wedi cael ICD wedi’i dynnu sydd hefyd mewn risg uchel. Tra bod pobl yn aros i feddyginiaethau weithio neu i ICD gael ei osod, maent mewn risg uchel o farwolaeth. Ar hyn o bryd, efallai y bydd rhai cleifion yn cael eu monitro yn yr ysbyty yn ystod y cyfnod hwn a gall diffibrilwyr cardiaidd gwisgadwy helpu i reoli’r risg hon.

Dyfeisiadau sy’n monitro rhythm y galon yn barhaus ac yn rhoi sioc drydanol yn awtomatig, o fewn munud, pan ganfyddir rhai rhythmau calon afreolaidd yw diffibrilwyr cardiaidd gwisgadwy. Maent yn cael eu gwisgo yn allanol, fel fest, yn erbyn y croen. Cam interim yw diffibrilwr cardiaidd gwisgadwy, ac nid yw wedi’i fwriadu i’w ddefnyddio yn yr hirdymor. Rhaid ei wisgo drwy’r amser, ac eithrio pan fydd y defnyddiwr yn ymolchi. Oherwydd ei fod yn wisgadwy, gall pobl fynd â’r ddyfais adref i fonitro eu cyflwr, sy’n golygu efallai na fydd angen i rai pobl aros yn yr ysbyty tra’n aros am ICD neu aros i feddyginiaeth weithio. Ar hyn o bryd, y LifeVest yw’r unig ddiffibrilwr cardiaidd gwisgadwy sydd ar gael i’w ddefnyddio yn y DU.

Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ynglŷn ag effeithiolrwydd clinigol ac o ran cost diffibrilwyr cardiaidd gwisgadwy ar gyfer oedolion sydd â risg uchel o farwolaeth cardiaidd sydyn.  Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu diffibrilwyr cardiaidd gwisgadwy mewn rhai cleifion, ond nid pob un, sy’n oedolion ac yn wynebu risg uchel o farwolaeth cardiaidd sydyn. 

Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR048 11.2022

Canllaw

GUI048 11.2022

GUI

Mae ein dogfennau cyngor yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ond buasem yn ddiolchgar pe gallech ein helpu i wella ein gwasanaethau drwy ddweud wrthym pam eich bod chi’n edrych ar ein cyngor.

Hepgor y ffurflen a lawrlwytho ffeil Cau

    Efallai yr hoffem gysylltu â chi trwy e-bost i gael gwybod mwy am sut y gwnaethoch ddefnyddio'r dogfennau.