Dyfeisiau niwrofodylu crimogol y gellir eu mewnblannu

Statws Testun Cyflawn

Dyfeisiau niwrofodylu crimogol y gellir eu mewnblannu i drin yr ysfa am anymataliaeth wrinol

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae dyfeisiau niwrofodyliad crimogol mewnblanadwy (ITND) yn dangos addewid ar gyfer trin anymataliaeth wrinol brys a/neu bledren orweithgar, ond nid yw’r dystiolaeth yn ddigonol i gefnogi eu mabwysiadu fel mater o drefn.

Mae astudiaethau un-garfan yn dangos bod ITND yn gwella symptomau, gan gynnwys nifer a chyfaint y pasio dŵr, digwyddiadau brys a difrifoldeb, achosion a difrifoldeb gollyngiadau, a chodi yn y nos. Fodd bynnag, ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth gymharol.

Mae modelu economaidd yn awgrymu nad yw ITND yn gost-effeithiol o’i gymharu â dim triniaeth. Ansicr yw cost-effeithiolrwydd o’i gymharu â chymaryddion gweithredol.

Mae HTW yn argymell ymchwil pellach ar effeithiolrwydd hirdymor ITND, effeithiolrwydd cymharol a chost-effeithiolrwydd.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae syndrom pledren orweithgar (OAB) yn gyflwr cyffredin lle mae cyhyrau’r bledren yn cyfangu’n amhriodol. Mae rhai pobl ag OAB yn teimlo angen brys i basio dŵr ac yn profi gollyngiadau cyn iddynt gyrraedd y toiled, a elwir yn anymataliaeth wrinol brys (UUI). Credir yr effeithir ar tua 7% o bobl yng Nghymru gan y cyflyrau hyn, sy’n cael eu profi’n fwy cyffredin gan fenywod a phobl hŷn. Mae dulliau triniaeth nad ydynt yn llawfeddygol yn cynnwys newidiadau i ffordd o fyw, ymarferion llawr y pelfis, hyfforddiant y bledren a meddyginiaeth. Os nad yw’r opsiynau hyn yn rheoli symptomau’n dda, gall cleifion ystyried gweithdrefnau megis niwrofodyliad sacral (SNM) a thocsin botwlinwm A (Botox). Mae ITND yn golygu mewnblaniad bach wedi’i osod yn y migwrn a band migwrn gwisgadwy, a ddefnyddir i ysgogi’r nerf crimogol a helpu i reoli’r bledren. Gellir defnyddio ITND ar gyfer hunan-driniaeth gartref.

Gwneuthurwr dyfeisiau a gyflwynodd y pwnc hwn i HTW i’w adolygu.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Angen sydyn a brys i basio dŵr yw anymataliaeth wrinol brys (UUI). Gall ddigwydd sawl gwaith yn ystod y dydd ac yn y nos. Gall wrin ollwng o’r bledren cyn cyrraedd y toiled. Achosir UUI yn bennaf gan gyfangiadau yng nghyhyrau’r bledren. Gall hyn fod yn ganlyniad i gyhyrau llawr y pelfis gwan, niwed i’r nerfau, haint, lefelau isel o estrogen neu bwysau corff trymach.

Mae dyfeisiau niwrofodyliad crimogol mewnblanadwy yn gweithio trwy ddefnyddio signalau trydanol i helpu i reoli’r cyfangiadau hyn. Mae’r ddyfais yn cael ei mewnblannu yn y migwrn a gall cleifion weinyddu triniaethau gartref.

Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar ddyfeisiau niwrofodyliad crimogol mewnblanadwy ar gyfer trin anymataliaeth wrinol brys. Mae dyfeisiau niwrofodyliad crimogol mewnblanadwy yn dangos addewid ar gyfer trin anymataliaeth wrinol brys a/neu bledren orweithgar, ond nid yw’r dystiolaeth yn ddigonol i gefnogi eu mabwysiadu fel mater o drefn.

Canllaw

GUI066 05.2025

GUI

Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR066 05.2025

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER535 05.2024 (superseded by EAR066 05.2025)