Dyfeisiau niwrogyhyrol geneuol i drin torgest fylchog neu adlif
Statws Testun Cyflawn
Dyfeisiau niwrogyhyrol geneuol i drin torgest fylchog neu adlif.
Crynodeb
Mae dyfeisiau niwrogyhyrol geneuol (fel iQoro) yn driniaeth ar gyfer adlif neu dorgest fylchog. Eu nod yw gwella symptomau adlif trwy gryfhau’r cyhyrau dan sylw. Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o ddefnyddio iQoro a dyfeisiau niwrogyhyrol geneuol eraill i drin torgest fylchog neu adlif.
Yn seiliedig ar y dystiolaeth a ganfuwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i’r cam arfarnu tystiolaeth.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER600 08.2025