Orthoses ffabrig elastomerig deinamig
Statws Testun Anghyflawn
Orthoses ffabrig elastomerig deinamig ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau niwrolegol
Arbenigeddau: Anabledd corfforol; Pediatreg
Crynodeb
Mae orthoses ffabrig elastomerig deinamig (DEFOs) yn ddillad sy’n cynnwys deunydd elastig cywasgol, er enghraifft Lycra, o drwch amrywiol wedi’u gwnïo at ei gilydd yn defnyddio tensiynau a chyfeiriadau tynnu penodol. Mae’r orthoses wedi’u cynllunio i ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth synhwyraidd a fydd yn galluogi’r defnyddiwr i ‘deimlo’ ei gorff yn fwy ac yna, defnyddio’r wybodaeth synhwyraidd hon i wella ei allu i weithredu. Gellir defnyddio orthoses ffabrig elastomerig deinamig i drin cyflyrau lle mae swyddogaethau propriodderbyniaeth a synhwyraidd yn cael eu heffeithio, fel parlys yr ymennydd.
Mae’r opsiynau rheoli sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer plant â pharlys yr ymennydd yn cynnwys ffisiotherapi, therapi galwedigaethol, orthoses anhyblyg, pigiadau tocsin botwlinwm, ac ymyriadau llawfeddygol.
Mae penderfyniad ynghylch p’un a ddylid symud y pwnc hwn ymlaen i gael ei arfarnu’n llawn yn yr arfaeth.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER628 10.2025