Endosgopau digidol cludadwy ar gyfer y man lle rhoddir gofal

Statws Testun Cyflawn

Endosgopau digidol cludadwy ar gyfer y man lle rhoddir gofal ar gyfer pobl sydd â symptomau gastroberfeddol isaf (GI) mewn gofal sylfaenol

Crynodeb

 

Efallai y bydd angen asesiad endosgopig ar bobl sydd angen gofal sylfaenol ac sydd â symptomau gastroberfeddol isaf. Mae gofal sylfaenol yn cynnwys endosgopau anhyblyg confensiynol neu endosgopi hyblyg mewn gofal eilaidd. Gall Meddygon Teulu neu nyrsys sydd yn gweithio mewn lleoliadau gofal sylfaenol, ddefnyddio endosgopau digidol cludadwy, y gellir gafael ynddynt, ar y man lle rhoddir gofal, fel LumenEye XI (SurgEase Innovations, Llundain, DU), a gallai hyn leihau’r angen i atgyfeirio cleifion i ofal eilaidd.

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o ddefnyddio endosgopau digidol cludadwy, ar y man lle rhoddir gofal, ar gyfer pobl sydd yn derbyn gofal sylfaenol ac sydd â symptomau gastroberfeddol isaf.

 

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a ganfuwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i’r cam arfarnu tystiolaeth.