Cofrestrfeydd canser etifeddol
Statws Testun Cyflawn
Cofrestrfeydd ar gyfer adnabod, olrhain a goruchwylio pobl sydd mewn perygl o gael eu diagnosio gyda chanserau etifeddol
Crynodeb
Yn aml, mae canser yn cael ei ddiagnosio’n hwyr yn y cyfnod hwnnw pan fo opsiynau triniaeth yn brin, a phan fo’r prognosis (cwrs tebygol y cyflwr a’i ganlyniad) yn waeth. Mae hyd at 12% o ganserau sydd yn cael eu diagnosio yn gysylltiedig â newid mewn genyn etifeddol. Mae cofrestrfeydd (systemau gwybodaeth sydd yn casglu, storio a rheoli data) wedi cael eu datblygu ar gyfer adnabod, olrhain a goruchwylio pobl sydd mewn perygl o gael eu diagnosio gyda chanserau etifeddol.
Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o adnabod, olrhain a goruchwylio pobl sydd mewn perygl o gael eu diagnosio gyda chanserau etifeddol.
Ar sail y dystiolaeth a nodwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i gael ei arfarnu.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER591 03.2025