Laryngosgopau fideo
Statws Testun Cyflawn
Laryngosgopau fideo i'w defnyddio i ddarparu gofal cyn mynd i’r ysbyty
Canlyniad yr arfarniad
Nid yw’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu laryngosgopi fideo fel mater o drefn ar gyfer pobl y mae angen mewndiwbio arnynt mewn lleoliad cyn ysbyty.
Nid yw defnyddio laryngosgopi fideo yn gwella cyfraddau llwyddiant mewndiwbio cyffredinol ac nid oes tystiolaeth i awgrymu gwell canlyniadau clinigol o gymharu â laryngosgopi uniongyrchol. Mae dadansoddiad economaidd yn amcangyfrif y byddai mabwysiadu laryngosgopi fideo fel mater o drefn mewn lleoliad cyn ysbyty yn gostus ac ni fyddai’n gosteffeithiol. Nid yw’r argymhelliad hwn yn atal arbenigwyr mewn lleoliad cyn ysbyty rhag parhau i ddefnyddio laryngosgopi fideo ar gyfer cleifion â llwybrau anadlu anodd mewn gwasanaethau lle mae dyfeisiau eisoes ar gael
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mae gofyn i’r gwasanaethau brys ymateb i sefyllfaoedd lle mae cleifion yn cael anhawster anadlu ac mae angen rheoli llwybr anadlu yn y lleoliad cyn ysbyty.
Mae’r rhain fel arfer yn sefyllfaoedd lle bu naill ai trawma mawr neu ataliad ar y galon. Mewn rhai achosion, gellir rheoli’r llwybr anadlu yn ddiogel gan ddefnyddio technegau llwybr anadlu sylfaenol, megis defnyddio llwybr anadlu uwch-glotig, a all ddarparu ocsigeniad chymorth anadlu dros dro. Fodd bynnag, mewn achosion mwy difrifol, er enghraifft yn dilyn trawma mawr, mae angen cyflwyno tiwb anadlu i’r tracea (mewndiwbio cyn ysbyty) er mwyn sicrhau y gellir trosglwyddo’r claf yn ddiogel i’r ysbyty.
Pan fo angen mewndiwbio, cydnabyddir bod sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni’n llwyddiannus heb gymhlethdodau a chyn gynted â phosibl yn flaenoriaeth glinigol uchel. Yn ystod y broses mewndiwbio, llwyddir i ddelweddu’r llwybr anadlu uchaf (laryncs) er mwyn caniatáu i’r tiwb traceol basio gan ddefnyddio laryngosgopi. Gwneir hyn fel arfer gan ddefnyddio teclyn anhyblyg sy’n disgleirio golau i’r laryncs er mwyn rhoi golwg uniongyrchol o’r llinynnau
lleisiol (laryngosgopi uniongyrchol). Fodd bynnag, gellir cyflawni hyn hefyd drwy ddefnyddio dyfais fwy hyblyg sydd â chamera wedi’i ymgorffori ynddi (laryngosgopi fideo), sy’n trosglwyddo delweddau amser real i sgrin arddangos. Awgrymwyd y gallai defnyddio laryngosgopi fideo mewn lleoliad cyn ysbyty fod yn gysylltiedig â chyfraddau uwch o lwyddiant mewndiwbio a gwell gofal i gleifion. Ystyriodd HTW y pwnc hwn ar ôl iddo gael ei gynnig gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Crynodeb mewn iaith glir
Weithiau, mae angen i’r gwasanaethau brys helpu pobl sydd ddim yn gallu anadlu ar eu pen eu hunain. Mae hyn yn gallu digwydd os bydd rhywun yn cael trawiad ar y galon neu os ydynt mewn damwain difrifol. Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y bydd angen i bobl gael tiwb anadlu wedi’i osod cyn iddynt gyrraedd yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys.
Mae laryngosgopi fideo (VL) yn gamera sydd yn cael ei ddefnyddio i weld y tu mewn i wddf neu laryncs person. Gall parafeddygon neu ymatebwyr cyntaf eraill ddefnyddio’r ddyfais VL i helpu i osod tiwb anadlu. Mae’r ddyfais yn defnyddio camera a monitor. Mae tiwb y camera yn cael ei roi i lawr y gwddf drwy’r trwyn neu’r geg, ac mae’r lluniau’n cael eu dangos ar y monitor. Yna, mae’r lluniau hyn yn cael eu defnyddio i helpu i ffitio’r tiwb anadlu. Gall parafeddygon ac ymatebwyr cyntaf eraill ffitio’r tiwb hwn heb gymorth camera hefyd, drwy edrych yn uniongyrchol i lawr gwddf rhywun.
Chwiliodd HTW am dystiolaeth ar ddefnyddio laryngosgopau fideo i osod tiwbiau anadlu mewn sefyllfaoedd y tu allan i’r ysbyty. Dangosodd y dystiolaeth nad yw defnyddio laryngosgopi fideo yn gwella pa mor llwyddiannus ydy’r broses o osod y tiwb anadlu, ac nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod laryngosgopau fideo yn gwella canlyniadau clinigol. Felly, nid yw defnyddio laryngosgopi fideo yn rheolaidd i drin pobl sydd angen gosod tiwb anadlu y tu allan i’r ysbyty yn cael ei gefnogi.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER288 10.2021
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR037 03.2022
Dogfennau ychwanegol
Access our guidance
Our advice documents are free to download, but we would be grateful if you could help us improve our services by telling us why you are looking at our advice and how you intend to use it.