Lensys cyffwrdd a sbectolau
Statws Testun Cyflawn
Lensys cyffwrdd a sbectolau ar gyfer trin myopia mewn plant
Canlyniad yr arfarniad
Myopia yw’r cyflwr llygaid mwyaf cyffredin yn y byd ac mae ei gyffredinrwydd yn cynyddu. Os na chaiff ei drin, gall myopia waethygu i fod yn fyopia uchel, sy’n cynyddu’r risg o nam ar y golwg na ellir ei wrthdroi a dallineb. Gofal safonol yng Nghymru yw lensys sbectol neu lensys cyffwrdd golwg sengl, a all gywiro myopia ond nid ydynt yn arafu ei waethygiad. Cynigir bod lensys sbectol a lensys cyffwrdd rheoli myopia yn lleihau gwaethygiad myopia, a gallai hyn arwain at leihau cymhlethdodau hirdymor myopia uchel, ond dim ond mewn rhai clinigau preifat yng Nghymru y maent ar gael ar hyn o bryd, gan greu annhegwch o ran mynediad atynt. Cyflwynwyd y pwnc hwn i HTW gan gynghorydd clinigol i’r GIG.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Myopia yw’r cyflwr llygaid mwyaf cyffredin yn y byd ac mae ei gyffredinrwydd yn cynyddu. Os na chaiff ei drin, gall myopia waethygu i fod yn fyopia uchel, sy’n cynyddu’r risg o nam ar y golwg na ellir ei wrthdroi a dallineb. Gofal safonol yng Nghymru yw lensys sbectol neu lensys cyffwrdd golwg sengl, a all gywiro myopia ond nid ydynt yn arafu ei waethygiad. Cynigir bod lensys sbectol a lensys cyffwrdd rheoli myopia yn lleihau gwaethygiad myopia, a gallai hyn arwain at leihau cymhlethdodau hirdymor myopia uchel, ond dim ond mewn rhai clinigau preifat yng Nghymru y maent ar gael ar hyn o bryd, gan greu annhegwch o ran mynediad atynt.
Cyflwynwyd y pwnc hwn i HTW gan gynghorydd clinigol i’r GIG.
Crynodeb mewn iaith glir
Mae myopia, a elwir hefyd yn olwg byr, yn gyflwr ar y golwg lle gall pobl weld gwrthrychau agos yn glir ond bod gwrthrychau ymhellach i ffwrdd yn aneglur. Mae golwg byr yn digwydd oherwydd bod rhai rhannau o’r llygad yn rhy bwerus neu fod pelen y llygad yn hirach na’r arfer. Nid yw’n glir pam mae golwg byr yn digwydd, ond gall redeg mewn teuluoedd. Mae golwg byr fel arfer yn dechrau mewn plant o chwe blwydd oed a gall barhau i waethygu nes bod person yn ei ugeiniau. Gall y golwg aneglur a achosir gan olwg byr olygu yr effeithir ar allu person i ddarllen ac ysgrifennu. Hefyd, gall diffyg golwg gynyddu’r risg o gyflyrau sy’n bygwth golwg yn ddiweddarach mewn bywyd.
Ar hyn o bryd, yng Nghymru, mae plant â nam ar eu golwg yn cael sbectol neu lensys cyffwrdd golwg sengl ar bresgripsiwn i gywiro eu golwg. Fodd bynnag, nid yw’r sbectol a’r lensys cyffwrdd hyn wedi’u cynllunio i arafu gwaethygiad golwg byr. Gall mathau arbennig o sbectol a lensys cyffwrdd arafu twf y llygad, a thrwy hynny arafu gwaethygiad golwg byr. Gelwir y rhain yn sbectol a lensys cyffwrdd rheoli myopia, ac maent fel arfer yn ddrytach na sbectol a lensys cyffwrdd golwg sengl.
Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd sbectol a lensys cyffwrdd rheoli myopia er mwyn arafu gwaethygiad golwg byr ymhlith plant a phobl ifanc. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu dau fath o lens, sef orthoceratoleg a lensys cyffwrdd meddal amlffocal, fel mater o drefn er mwyn arafu gwaethygiad golwg byr ymhlith plant a phobl ifanc.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER367 06.2022
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR049 05.2023
Dogfennau ychwanegol
Access our guidance
Our advice documents are free to download, but we would be grateful if you could help us improve our services by telling us why you are looking at our advice and how you intend to use it.