Liposugno ar gyfer lymffoedema cronig
Statws Testun Cyflawn
Liposugno ar gyfer lymffoedema cronig
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r defnydd o liposugno ar gyfer trin lymffoedema cronig yn addawol, ond nid yw’r dystiolaeth bresennol yn cefnogi ei fabwysiadu fel mater o drefn yng Nghymru.
Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod y defnydd o liposugno yn arwain at leihad sylweddol yn y tymor canolig yng nghyfaint oedema aelodau’r corff a gwelliant yn ansawdd bywyd pobl â lymffoedema y breichiau a’r coesau, ond ychydig o dystiolaeth sydd ar gael ar ei ddefnydd mewn lymffoedema creuanwynebol.
Mae asesiad economeg iechyd yn amcangyfrif bod liposugno yn ogystal â gofal safonol ar gyfer trin lymffoedema yn y fraich yn annhebygol o fod yn gost-effeithiol, gydag ICER o £26,269 fesul QALY yn cael ei ennill o gymharu â gofal safonol yn unig. Mae mwy o ansicrwydd, fodd bynnag, ynghylch cost-effeithiolrwydd liposugno i drin lymffoedema y goes neu greuanwynebol.
Mae Technoleg Iechyd Cymru yn argymell yn gryf y dylid caffael tystiolaeth o’r byd go iawn ar effeithiolrwydd, profiad y claf, a chanlyniadau liposugno ar gyfer lymffoedema cronig i gleifion, yn enwedig mewn pobl â lymffoedema y goes.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mae lymffoedema cronig yn cyfeirio at groniad annormal o hylif llawn protein mewn meinwe, gan arwain at chwyddo, ac mae’n effeithio ar fwy na 450,000 o bobl yn y DU. Caiff ei achosi gan nam yn y system lymffatig a all ddigwydd naill ai oherwydd datblygiad annormal neu drawma. Mae lymffoedema yn dod i’r amlwg yn bennaf yn eithafion y breichiau neu’r coesau, gan arwain at boen, lleihad yn ystod y symudiadau a chynnydd yn y risg o heintiau croen yn yr ardal yr effeithir arni. Ar gyfer pobl â lymffoedema nad ydynt wedi ymateb i reolaeth anlawfeddygol neu lawdriniaethau dad-swmpio amgen, gellir ystyried liposugno fel opsiwn triniaeth.
Mae liposugno yn driniaeth sy’n tynnu braster gormodol y corff gan ddefnyddio caniwla a allsugnwr o dan bwysau negyddol. Gellir darparu liposugno ar y cyd â gofal safonol, sy’n cynnwys hunanreoli ceidwadol ac ymyriadau ymddygiadol, gan gynnwys dillad cywasgu, addysg gofal croen, rheoli ffordd o fyw a thylino arbenigol.
Cafodd y pwnc hwn ei lywio gan ganllawiau ymyriadau NICE (IPG) 723: ‘Liposugno ar gyfer lymffoedema cronig’
Crynodeb mewn iaith glir
Cyflwr lle mae hylif yn cronni yn y coesau ac yn achosi iddynt chwyddo yw lymffoedema. Mae’n effeithio’n fwyaf cyffredin ar y breichiau neu’r coesau, ond gall hefyd ddigwydd yn wal y frest, yr abdomen, y gwddf a’r wyneb. Mae’r hylif fel arfer yn cael ei ddraenio gan y system lymffatig, ond gall y broses hon fynd o’i le os caiff y system lymffatig ei niweidio (lymffoedema eilaidd) neu os yw’n ddiffygiol o enedigaeth (lymffoedema cynhenid).
Y driniaeth safonol bresennol ar gyfer lymffoedema yw ‘therapi lymffatig llaciol’. Mae pedair rhan i’r driniaeth hon. Rhaid i gleifion:
- Wisgo rhwymynnau cywasgu
- Cynnal gofal croen da
- Gwneud ymarfer corff – defnyddio’r cyhyrau yn y rhan yr effeithir arni a gwella draeniad hylif
- Defnyddio technegau tylino arbenigol – a elwir yn ddraeniad lymffatig â llaw (MLD)
Mae hwn yn therapi dwys sy’n gofyn llawer gan gleifion. Os na chaiff unrhyw ran o’r therapi ei wneud yn iawn, yna ni fydd mor llwyddiannus wrth leihau’r chwydd.
Yn draddodiadol mae liposugno yn weithdrefn a ddefnyddir i dynnu braster corff diangen. Ar gyfer pobl â lymffoedema, cynigir y gellir defnyddio liposugno i ddraenio’r hylif ychwanegol o’r fraich neu’r goes chwyddedig.
Chwiliodd HTW am dystiolaeth ar y defnydd o liposugno ar gyfer lymffoedema. Mae’r defnydd o liposugno ar gyfer trin lymffoedema cronig yn addawol, ond nid yw’r dystiolaeth bresennol yn cefnogi ei fabwysiadu fel mater o drefn yng Nghymru.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER427 11.2022
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR056 01.2024
Canllaw
GUI056 01.2024