Llawfeddygaeth thorasig gyda chymorth robot

Statws Testun Cyflawn

Llawfeddygaeth thorasig gyda chymorth robot.

Canlyniad yr arfarniad

 

Nid yw’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu llawfeddygaeth thorasig gyda chymorth robot fel mater o drefn.

Mae’r dystiolaeth bresennol yn awgrymu canlyniadau clinigol cyfatebol ond ansicrwydd ynghylch unrhyw welliant mewn effeithiolrwydd clinigol llawfeddygaeth thorasig robotig yn y tymor byr a’r hirdymor o gymharu â gofal safonol (llawfeddygaeth thorasig agored neu drwy fideo).

Mae’r dadansoddiad economaidd yn awgrymu nad yw llawfeddygaeth thorasig robotig yn gost-effeithiol o gymharu â llawfeddygaeth thorasig â chymorth fideo er bod ansicrwydd ynghylch rhai agweddau allweddol ar y dadansoddiad.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Math o lawfeddygaeth leiaf mewnwthiol ar gyfer pobl sy’n cael echdoriad meinwe o geudod y frest, oherwydd canser neu gyflyrau eraill yw llawfeddygaeth thorasig gyda chymorth robot (RATS). Mae’r driniaeth bresennol yn cynnwys naill ai llawfeddygaeth agored neu lawfeddygaeth thoracosgopig â chymorth fideo (VATS), sef ddull lleiaf mewnwthiol gwahanol sy’n defnyddio offer a arweinir gan gamera mewnwthiol.

Ailasesiad o’r dechnoleg hon yw hwn, yn dilyn asesiad cyntaf HTW (EAR011) yn 2019. Cynigiwyd ailasesiad o’r pwnc gan gynrychiolwyr Gwasanaethau Llawfeddygol Thorasig Oedolion De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

 

Crynodeb mewn iaith glir

 

Mae angen llawdriniaeth ar rai pobl sydd â chanser neu gyflyrau eraill i dynnu rhan, neu’r cyfan, o ysgyfaint sydd wedi heintio. Ar hyn o bryd gellir gwneud y llawdriniaeth hon naill ai drwy agor wal y frest i gael mynediad at yr ysgyfaint neu drwy ddefnyddio offer sy’n cael ei arwain gan gamera bach sy’n mynd i mewn i’r frest drwy doriadau bach. Mae pa un a ddefnyddir fel arfer yn dibynnu ar ba faint mae’r clefyd wedi datblygu. Llawfeddygaeth thorasig, neu lawfeddygaeth ar yr organau y tu mewn i’r frest, yw’r enw ar hyn.

Mae llawfeddygaeth thorasig gyda chymorth robot hefyd yn cael ei wneud drwy un, neu gyfres, o doriadau bach. Rheolir y ddyfais robotig gan y llawfeddyg. Fe’i defnyddir yn lle symudiadau dwylo a bysedd y llawfeddyg ei hun. Cynigir y bydd y llawdriniaeth yn cael ei chyflawni’n fwy manwl gywir ar rannau bach o’r ysgyfaint a fyddai fel arall yn anodd i’r llawfeddyg eu cyrraedd.

Asesodd Technoleg Iechyd Cymru y defnydd o lawfeddygaeth thorasig gyda chymorth robot i helpu GIG Cymru i benderfynu a ddylai fod ar gael i ganolfannau arbenigol. Nid yw’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu llawfeddygaeth thorasig gyda chymorth robot fel mater o drefn.

Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR011-2 10.2023

Canllaw

GUI011-2 10.2023

GUI

Mae hwn yn fersiwn wedi’i ddiweddaru o arfarniad. Cyhoeddodd HTW Ganllaw ar y pwnc hwn yn wreiddiol ym mis Medi 2019. Os hoffech weld y Canllaw a’r dogfennau ategol o’r arfarniadau blaenorol, cysylltwch â HTW.