Mewnblannu synwyryddion pwysedd rhydwelïau ysgyfeiniol trwy’r croen
Statws Testun Anghyflawn
Mewnblannu synwyryddion pwysedd rhydwelïau ysgyfeiniol trwy’r croen ar gyfer monitro triniaeth o fethiant cronig y galon.
Canlyniad yr arfarniad
Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu synwyryddion pwysedd rhydwelïau ysgyfeiniol a fewnblannir drwy’r croen fel mater o drefn i fonitro triniaeth pobl â methiant cronig y
galon dosbarth III Cymdeithas y Galon Efrog Newydd (NYHA) a/neu sydd wedi gorfod mynd i’r ysbyty oherwydd methiant y galon o fewn y 12 mis blaenorol.
Mae’r dystiolaeth yn dangos bod defnyddio synwyryddion pwysedd rhydwelïau ysgyfeiniol a fewnblannir drwy’r croen yn lleihau’r nifer sy’n mynd i’r ysbyty oherwydd
methiant y galon yn ogystal â hyd arhosiad yn yr ysbyty a gallai wella ansawdd bywyd.
Mae cyngor arbenigol yn awgrymu y gallai cyfradd waelodlin o dderbyniadau i’r ysbyty yng Nghymru fod wedi’i thanamcangyfrif yn nadansoddiad cost a defnyddioldeb Technoleg Iechyd Cymru ac felly mae’n gredadwy bod synwyryddion pwysedd rhydwelïau ysgyfeiniol a fewnblannir drwy’r croen yn gost-effeithiol yn GIG Cymru.
Dylai’r defnydd o synwyryddion pwysedd rhydwelïau ysgyfeiniol a fewnblannir drwy’r croen yn GIG Cymru fod yn gysylltiedig â chasglu tystiolaeth byd go iawn o effeithiolrwydd clinigol a chost.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Mae methiant cronig y galon yn gyflwr meddygol sy’n anablu ac yn aml yn gwaethygu, sy’n deillio o’r ffaith nad yw’r galon yn gallu pwmpio digon o waed drwy’r cylchrediad i ddiwallu anghenion y corff. Mae gan bobl â methiant y galon ansawdd bywyd is a risg sylweddol o farwolaeth. Methiant aciwt y galon, gan gynnwys gwaethygiad aciwt methiant cronig y galon, yw’r rheswm mwyaf cyffredin dros dderbyniadau brys i’r ysbyty yng Nghymru ymhlith oedolion dros 65 oed ac mae ei gyffredinrwydd yn cynyddu.
Mae angen monitro pobl â methiant cronig y galon yn rheolaidd i ganfod arwyddion o ddirywiad ac i addasu triniaeth. Mae’n hysbys bod cynnydd ym mhwysedd rhydwelïau ysgyfeiniol yn un o’r arwyddion cynharaf o wendid y galon, felly gallai defnyddio dyfeisiau haemodynamig sy’n mesur pwysedd rhydwelïau ysgyfeiniol fod o gymorth wrth fonitro pobl â methiant y galon.
Nodwyd y pwnc hwn ar gyfer ei arfarnu yn dilyn chwiliad o ganllawiau gweithdrefnau ymyriadaol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Gan fod canllawiau
gweithdrefnau ymyriadaol NICE yn canolbwyntio ar dystiolaeth o ddiogelwch ac effeithiolrwydd yn unig, cynhaliodd HTW yr arfarniad hwn i asesu effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwyddy dechnoleg.
Crynodeb mewn iaith glir
Methiant cronig y galon yw pan na all y galon bwmpio gwaed o amgylch y corff yn iawn mwyach. Mae angen monitro person sydd â methiant cronig y galon yn agos iawn. Rhaid cynnal gwiriadau rheolaidd ar weithrediad a rhythm y galon yn ogystal ag iechyd cyffredinol y person ac organau eraill, megis yr arennau. Gall fod yn bwysig iawn gwirio am arwyddion cynnar y gallai rhywbeth fod yn mynd o’i le. Un math o arwydd rhybudd cynnar yw cynnydd ym mhwysedd rhydwelïau ysgyfeiniol, neu’r pwysau y mae llif y gwaed yn ei roi ar y rhydwelïau sy’n ei gludo i’r ysgyfaint. Os gellir canfod cynnydd mewn pwysedd rhydwelïau ysgyfeiniol, gellir cyflwyno neu newid triniaeth i helpu i reoli hyn.
Felly, gall dyfeisiau sy’n mesur pwysedd rhydwelïau ysgyfeiniol helpu gyda monitro methiant y galon. Mae synhwyrydd pwysedd rhydwelïau ysgyfeiniol (PAPS) yn ddyfais o’r fath. Rhoddir y synhwyrydd yn y rhydweli ysgyfeiniol chwith. Mae’r synhwyrydd yn mesur pwysedd y llif gwaed yn y rhydweli. Cymerir darlleniadau o’r synhwyrydd gan obennydd arbennig. Bydd y person â PAPS yn gorwedd i lawr ar y gobennydd o leiaf unwaith y dydd a chymerir darlleniad o bwysedd y rhydweli ac yna caiff ei anfon at y tîm gofal iechyd.
Edrychodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ynglŷn â’r defnydd o PAPS i fonitro triniaeth pobl â methiant cronig y galon. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu fel mater o drefn synwyryddion pwysedd rhydwelïau ysgyfeiniol a fewnblannir drwy’r croen i fonitro triniaeth pobl â methiant cronig y galon dosbarth III Cymdeithas y Galon Efrog Newydd a/neu sydd wedi gorfod mynd i’r ysbyty oherwydd methiant y galon o fewn y 12 mis blaenorol.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER430 02.2023
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR052 10.2023
Canllaw
GUI052 10.2023