Orthoses ymestynnol deinamig rheoledig

Statws Testun Cyflawn

Orthoses ymestynnol deinamig rheoledig i drin anystwythder yn y pen-glin ar ôl llawdriniaeth, ac arthroffeibrosis

Arbenigeddau:  System cyhyrysgerbydol

Crynodeb

 

Mae anystwythder yn y pen-glin ar ôl llawdriniaeth ac arthroffeibrosis yn gymhlethdodau cyffredin ar ôl cael llawdriniaeth ar y pen-glin. Ar hyn o bryd, mae yna ystod o opsiynau anfeddygol a llawfeddygol ar gyfer hyn, fel ffisiotherapi a thriniaeth o dan anaesthesia. Dyfeisiau sy’n cael eu gwisgo o amgylch y pen-glin yw orthoses ymestynnol deinamig rheoledig (CDS), sy’n cynnwys colfach sbring y gellir ei addasu, sy’n helpu i ymestyn y pen-glin dros amser, er mwyn ysgogi twf y meinwe sydd wedi contractio a gwella symudiad. Cynigir y gallai orthoses CDS leihau’r angen am ymyriadau llawfeddygol, arwain at amseroedd adsefydlu byrrach, lleihau nifer y sesiynau cleifion allanol sydd eu hangen, a’u bod yn addas ar gyfer adsefydlu yn y cartref.

 

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o ddefnyddio dyfeisiau orthoses CDS i drin anystwythder yn y pen-glin ar ôl llawdriniaeth, ac arthroffeibrosis.

 

Yn seiliedig ar y dystiolaeth a ganfuwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i’r cam arfarnu tystiolaeth.