Orthoses ymestynnol statig y gellir eu haddasu
Statws Testun Cyflawn
Orthoses ymestynnol statig y gellir eu haddasu i drin anystwythder yn y pen-glin ar ôl llawdriniaeth, ac arthroffeibrosis
Arbenigeddau: System cyhyrysgerbydol
Crynodeb
Mae anystwythder yn y pen-glin ar ôl llawdriniaeth ac arthroffeibrosis yn gymhlethdodau cyffredin ar ôl cael llawdriniaeth ar y pen-glin. Ar hyn o bryd, mae yna ystod o opsiynau anfeddygol a llawfeddygol ar gyfer hyn, fel ffisiotherapi a thriniaeth o dan anaesthesia. Dyfeisiau yw orthoses ymestynnol statig y gellir eu haddasu, sydd yn cael eu gwisgo o amgylch y pen-glin, y mae cleifion yn eu haddasu’n barhaus dros sesiwn 30 munud i ymestyn eu pen-glin yn araf mewn ffordd sydd ddim yn achosi poen. Cynigir y gallai dyfeisiau orthoses ymestynnol statig y gellir eu haddasu leihau’r angen am ymyriadau llawfeddygol, arwain at amseroedd adsefydlu byrrach, lleihau nifer y sesiynau cleifion allanol sydd eu hangen, a’u bod yn addas ar gyfer adsefydlu yn y cartref.
Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o ddefnyddio’r dyfeisiau hyn i drin anystwythder yn y pen-glin ar ôl llawdriniaeth, ac arthroffeibrosis.
Yn seiliedig ar y dystiolaeth a ganfuwyd, daeth Grŵp Asesu HTW i’r casgliad i beidio â symud y pwnc hwn ymlaen i’r cam arfarnu tystiolaeth.
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER627 10.2025