Dyfais monitro glwcos fflach Freestyle Libre ar gyfer rheoli diabetes

Statws Testun Cyflawn

Peiriant monitro glwcos fflach FreeStyle Libre ar gyfer rheoli diabetes

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadau dyfais monitro glwcos fflach Freestyle Libre fel mater o drefn i gynorthwyo i reoli lefelau glwcos yn y gwaed ymhlith pobl sydd â diabetes ac sydd angen triniaeth ag inswlin.

Mae’r defnydd o ddyfais monitro glwcos fflach Freestyle Libre ymhlith y bobl hyn yn gwella cyfran yr amser y mae lefel glwcos yn y gwaed o fewn yr amrediad targed ac mae’n lleihau cyfnodau mewn cyflwr o hypo a hyperglycemia.

Mae modelu economeg iechyd yn dynodi bod defnyddio dyfais monitro glwcos fflach Freestyle Libre yn ymyriad cost effeithiol o gymharu â hunanfonitro lefel glwcos yn y gwaed â phigiad bys, gyda chymarebau cost-effeithiolrwydd ychwanegol (ICERs) o £4,706 a £13,137 fesul QALY ar gyfer diabetes math 1 a math 2 yn y drefn honno.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae cynnal lefel crynodiad glwcos yn y gwaed mor agos â phosibl i’r amrediad normal yn nod pwysig mewn gofal diabetes llwyddiannus gan fod hyn yn helpu i leihau cymhlethdodau yn y tymor byr a’r hirdymor. Mae cael mesuriadau lefel glwcos yn y gwaed rheolaidd yn hollbwysig trwy gydol y dydd ar gyfer nifer o bobl sydd â diabetes, yn arbennig y rheini sy’n cael eu trin ag inswlin, er mwyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â thriniaeth a maeth ac er mwyn osgoi canlyniadau difrifol posibl o fod â lefel glwcos yn y gwaed sy’n rhy isel (hypoglycemia) neu’n rhy uchel (hyperglycemia). Y dull safonol ar gyfer monitro lefelau glwcos yn y gwaed yw prawf pigiad bys (hunanfonitro glwcos yn y gwaed, SMBG). Mae technoleg monitro glwcos fflach Freestyle Libre (FLFGM) yn rhoi dewis amgen i hyn drwy fesur lefel y glwcos mewn meinwe isgroenol gan ddefnyddio synhwyrydd tafladwy a osodir ar ran uchaf y fraich. Gellir gweld y lefelau glwcos a gofnodir gan y synhwyrydd drwy sganio’r synhwyrydd gyda naill ai ddarllenydd pwrpasol neu ap ar ffôn symudol. Golyga hyn y gellir cael ‘ciplun’ yn ogystal â phatrwm lefel glwcos yn y gwaed er mwyn cynorthwyo gyda phenderfyniadau.

Cyhoeddodd HTW Ganllaw gwreiddiol ar FLFGM ym mis Tachwedd 2018. Diweddarir Canllawiau HTW yn achlysurol yn ôl y galw. Yn dilyn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, cytunodd HTW ei bod yn briodol i gyhoeddi Canllaw wedi’i ddiweddaru, gan y bu newid sylweddol yn y dystiolaeth sydd ar gael ers y cyhoeddwyd y Canllaw gwreiddiol.

Crynodeb mewn iaith glir

 

Mae diabetes yn gyflwr iechyd hirdymor sy’n effeithio ar sut mae eich corff yn troi bwyd yn egni. Mae’n gyflwr cymhleth ac mae nifer o ffurfiau gwahanol iddo. Pan fydd bwyd yn cael ei fwyta caiff ei dorri lawr yn siwgr (glwcos) a’i ryddhau i lif y gwaed. Mae hyn yn sbarduno’r pancreas i ddechrau cynhyrchu inswlin. Yna mae’r inswlin yn helpu’r glwcos i fynd i gelloedd y corff, lle gellir ei ddefnyddio ar gyfer egni neu ei storio er mwyn ei ddefnyddio yn y dyfodol. Nid yw pobl sydd â diabetes math 1 yn cynhyrchu digon o inswlin i reoli’r holl glwcos sydd yn llif eu gwaed. Gall pobl sydd â diabetes math 2 gynhyrchu inswlin, ond ni all yr inswlin weithio’n iawn neu ni all y pancreas gynhyrchu digon ohono.

Mae bod â gormod o glwcos yn y gwaed (hyperglycemia) neu ddim digon ohono (hypoglycemia) arwain at gymhlethdodau iechyd, megis difrod i’r galon, llygaid, traed ac arennau. Mae hi felly’n bwysig bod pobl sydd â diabetes yn gallu profi eu gwaed i wirio swm y glwcos yn llif eu gwaed ar unrhyw adeg, er mwyn helpu i reoli’r cyflwr a lleihau cymhlethdodau. Yn gyffredinol byddai hyn cael ei wneud drwy bigo blaen y bysedd â nodwydd i dynnu diferyn o waed, sydd wedyn yn cael ei ddadansoddi â dyfais. Yr enw ar hyn yw hunanfonitro glwcos yn y gwaed (SMBG). Efallai y bydd angen defnyddio’r dull hwn hyd at 11 gwaith y dydd a gall fod yn boenus, peri embaras a rhoi darlleniadau glwcos anghywir.

Mae technoleg Monitro Glwcos Fflach (FGM) yn ddewis amgen i SMBG a’i bwriad yw lleihau rhai o’r anawsterau y sonnir amdanynt gyda SMBG. Yn y broses FGM gosodir synhwyrydd o dan y croen ac mae hwnnw’n darllen ac yn cofnodi lefelau glwcos yn barhaus. Gellir gweld y lefelau hyn drwy basio sganiwr dros y synhwyrydd, a fydd yn dangos lefel y glwcos yn y gwaed i’r defnyddiwr.

Chwiliodd HTW am dystiolaeth ynglŷn â defnydd FGM ymhlith pobl sydd â diabetes math 1 a math 2. Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu technoleg monitro glwcos fflach i fonitro glwcos yn y gwaed ar gyfer pobl sydd â diabetes sydd angen triniaeth ag inswlin.

Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR004-2 07.2021

Canllaw

GUI004-02 09.2021

GUI

Mae hwn yn fersiwn wedi’i ddiweddaru o arfarniad. Cyhoeddodd HTW Ganllaw ar y pwnc hwn yn wreiddiol ym mis Tachwedd 2018. Os hoffech weld y Canllaw a’r dogfennau ategol o’r arfarniadau blaenorol, cysylltwch â HTW.