Sgerbydau allanol y coesau wedi’u pweru

Statws Testun Cyflawn

Sgerbydau allanol y coesau wedi’u pweru i gefnogi'r system gyhyrysgerbydol mewn oedolion a phlant sydd â namau niwrolegol cymhleth, neu anafiadau i'r asgwrn cefn

Crynodeb

 

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar ddefnyddio sgerbydau allanol y coesau wedi’u pweru i gefnogi’r system gyhyrysgerbydol mewn oedolion a phlant sydd â namau niwrolegol cymhleth, neu anafiadau i’r asgwrn cefn. Penderfynodd y Grŵp Asesu i beidio â datblygu’r pwnc hwn ymhellach, gan nad oedd y sylfaen dystiolaeth yn ddigonol ar gyfer cynnal arfarniad llawn.