Profion ffarmogeneteg

Statws Testun Cyflawn

Profion ffarmageneteg i ganfod y risg o ddioddef adweithiau andwyol i feddyginiaethau gwrthepileptig.

Canlyniad

 

Mae’r dystiolaeth ar y defnydd o brofion ffarmageneteg i ddarganfod y risg o adweithiau anffafriol i feddyginiaethau gwrthepileptig yn brin.

Nodwyd peth tystiolaeth o ddefnyddio profion antigenau leucocytau dynol (HLA) i benderfynu a ddylid rhagnodi triniaeth carbamazepine. Fodd bynnag, mae barn arbenigol yn awgrymu ei bod yn annhebygol iawn y caiff carbamazepine ei ragnodi i bobl sydd newydd gael diagnosis o epilepsi, gan ei bod yn debygol y byddant yn cael cynnig cyffur sydd â chyfradd is o adweithiau andwyol i gyffuriau yn lle hynny. Felly, gall defnyddio’r prawf i benderfynu a ddylid rhagnodi carbamazepine fod o berthnasedd cyfyngedig i arfer cyfredol.

Daeth grŵp asesu HTW i’r casgliad na ellid cyhoeddi canllaw ar hwn ar hyn o bryd.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae rhai meddyginiaethau gwrthepileptig yn gallu achosi adweithiau gorsensitifrwydd difrifol. Mae’r adweithiau hyn yn brin, ond yn ddifrifol. Mae marcwyr genetig wedi bod yn gysylltiedig â’r adweithiau andwyol hyn, yn enwedig alelau HLA. Gallai defnyddio profion genetig ar gyfer y marcwyr hyn cyn dechrau triniaeth ganfod y bobl sy’n wynebu’r risg fwyaf o ddioddef adwaith, ac a allai elwa o gael triniaeth amgen.

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER017 01.2019

Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR010 10.2019

Mae ein dogfennau cyngor yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ond buasem yn ddiolchgar pe gallech ein helpu i wella ein gwasanaethau drwy ddweud wrthym pam eich bod chi’n edrych ar ein cyngor.

Hepgor y ffurflen a lawrlwytho ffeil Cau

    Efallai yr hoffem gysylltu â chi trwy e-bost i gael gwybod mwy am sut y gwnaethoch ddefnyddio'r dogfennau.