Profion i helpu i ddiagnosio COVID-19
Statws Testun Cyflawn
Adroddiad ydy hwn ar effeithiolrwydd clinigol profion sy’n canfod y feirws SARS-CoV-2 neu wrthgyrff i SARS-CoV-2, i helpu i ddiagnosio COVID-19
Crynodeb
Mae’r adroddiad hwn wedi cael ei lunio i gynorthwyo Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru yn eu hymateb i’r pandemig clefyd Coronafeirws 2019 (COVID-19). Mae’n darparu adolygiad cyflym o dystiolaeth a gyhoeddwyd ar effeithiolrwydd profion feirws a gwrthgyrff i helpu i ddiagnosio COVID-19. Mae’n seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf oedd ar gael ar yr adeg cyhoeddi, ond bydd yn cael ei diweddaru’n rheolaidd.
Crynodeb mewn iaith glir
Edrychodd Technoleg Iechyd Cymru (HTW) am dystiolaeth i asesu cywirdeb, effeithlonrwydd a chost-effeithiolrwydd profion i geisio diagnosio presenoldeb coronafeirws 2 (SARS-CoV-2). Mae profion ar gyfer COVID-19 yn syrthio i ddau gategori sylfaenol; y rheiny sy’n profi am bresenoldeb y feirws ei hun (profion ‘feirws ‘) a’r rheiny sy’n profi am bresenoldeb gwrthgyrff sydd yn cael eu cynhyrchu mewn ymateb i’r feirws (profion ‘gwrthgyrff ‘). Mae llawer o wahanol fathau o brofion o’r ddau gategori, y rhan fwyaf ohonynt mewn labordy, ond gellir gwneud rhai yn agosach at y claf (mae’r rhain yn cael eu galw’n brofion ‘pwynt gofal ‘), fel mewn ysbyty neu glinigau Meddyg Teulu. Yn yr astudiaethau a ganfuwyd, cafodd y rhan fwyaf o’r profion eu perfformio mewn labordai ar gleifion yn yr ysbyty, a oedd naill ai’n sicr o fod wedi cael ‘ COVID-19 ‘ neu y tybiwyd eu bod wedi ei gael
O ran profion feirws a phrofion gwrthgyrff, mae’n anodd bod yn sicr ynghylch cywirdeb y profion, gan nad oes ffordd sicr o brofi bod canlyniad prawf yn gywir eto, h.y. ydy canlyniad positif yn golygu bod y feirws/gwrthgyrff yn bresennol mewn gwirionedd, ac ydy canlyniad negatif wir yn golygu nad ydy’r feirws/gwrthgyrff yn bresennol?
O ran profion feirws, yr amcangyfrif gorau yw, ar gyfer pob 100 o bobl sydd wedi’u heintio â’r feirws mewn gwirionedd, mai dim ond 89 fyddai’n profi’n bositif. Byddai’r 11 arall yn profi’n negatif, er eu bod nhw wedi’u heintio â’r feirws (canlyniad negatif anghywir neu ‘ffug ‘). Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod nifer o ffactorau gwahanol yn dylanwadu ar ganlyniadau a chywirdeb y profion hyn, sy’n cynnwys y math o sampl a ddefnyddiwyd, y rhan o’r corff a samplwyd, a’r cyfnod o amser rhwng pryd mae’r symptomau’n dechrau a’r prawf yn cael ei roi. Ni ellir crynhoi’r dystiolaeth ar gyfer profion gwrthgyrff yn yr un modd â phrofion feirws, gan fod cymaint o wahanol fathau o wrthgyrff a thargedau, ac mae cywirdeb profion yn amrywio’n eang.
Yn gyffredinol, mae bylchau pwysig yn y dystiolaeth o ran profion feirws a phrofion gwrthgyrff. Does dim llawer o dystiolaeth ynghylch pa mor dda mae profion yn gweithio yn y gymuned, yn hytrach nag yn yr ysbyty, neu mewn pobl sydd wedi’u heintio â coronafeirws ond dim ond gyda symptomau ysgafn. Bydd HTW yn parhau i adolygu’r dystiolaeth wrth i fwy o ffynonellau ddod ar gael, a bydd yn diweddaru ein hadroddiadau yn unol â hynny.
Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR025 (Diweddarwyd ddiwethaf: 14.05.2020)